Prifysgol Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Dim crynodeb golygu
Llinell 56:
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy [[Siarter brenhinol|Siarter Frenhinol]] ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol [[Meddygaeth|Feddygaeth]] oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.<ref>http://www.hefcw.ac.uk/about_he_in_wales/higher_education_institutions/cardiff_university.aspx Tudalen y Brifysgol ar wefan HEFCW.</ref> Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Newidwyd hynny i Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol Prifysgol Caerdydd.
 
Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
 
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ysgol fywiog, lewyrchus a chartrefol, ac iddi safonau uchel iawn o ran dysgu ac ymchwil. Mae asesiadau allanol yn dangos ei bod yn un o'r unedau academaidd gorau ym maes y Gymraeg a’i llenyddiaeth, a bod Prifysgol Caerdydd yn cael ei hystyried ymhlith prifysgolion gorau Prydain.
 
Hon yw un o'r adrannau Cymraeg hynaf, ac yma mae'r Gadair Gymraeg sefydledig hynaf yng Nghymru. Am dros ganrif y mae wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd Cymru ac wedi bod yn gartref ac yn feithrinfa i ysgolheigion a llenorion amlwg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, G. J. Williams, A. O. H. Jarman a Saunders Lewis.
 
Yr ydym yn cynnig amrywiaeth eang o gynlluniau gradd, yn rhan-amser ac yn llawn-amser, gan gynnwys amrediad o fodiwlau cyffrous a blaengar. Yr ydym hefyd yn gwasanaethu’r gymuned leol - mae ein Canolfan Cymraeg i Oedolion yn dysgu’r iaith i dros 1,700 o oedolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Y mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America ac i Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio. <ref>http://www.cardiff.ac.uk/cymraeg/aboutus/index.html</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
Llinell 63 ⟶ 70:
*[http://www.russellgroup.ac.uk/ Gwefan swyddogol Grwp Prifysgolion Russell]
*[http://www.wales.ac.uk/cy/Home.aspx Gwefan swyddogol Prifysgol Cymru]
*[http://www.cardiff.ac.uk/cymraeg/aboutus/index.html]
 
[[Categori:Prifysgol Caerdydd| ]]