Prifysgol Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 56:
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy [[Siarter brenhinol|Siarter Frenhinol]] ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol [[Meddygaeth|Feddygaeth]] oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.<ref>http://www.hefcw.ac.uk/about_he_in_wales/higher_education_institutions/cardiff_university.aspx Tudalen y Brifysgol ar wefan HEFCW.</ref> Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Newidwyd hynny i Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol Prifysgol Caerdydd.
 
==Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd==
 
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ysgol fywiog, lewyrchus a chartrefol, ac iddi safonau uchel iawn o ran dysgu ac ymchwil. Mae asesiadau allanol yn dangos ei bod yn un o'r unedau academaidd gorau ym maes y Gymraeg a’i llenyddiaeth, a bod Prifysgol Caerdydd yn cael ei hystyried ymhlith prifysgolion gorau Prydain.