Prifysgol Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 52:
Prifysgol ym [[Parc Cathays|Mharc Cathays]], [[Caerdydd]] a sefydlwyd ym 1883 yw '''Prifysgol Caerdydd''' ([[Saesneg]]: '''Cardiff University'''). Roedd hi'n aelod [[Prifysgol Cymru]] tan 2004.
 
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brif brifysgolion ymchwil y byd, gyda thros 60% o'r ymchwil a wneir yng Nghaerdydd wedi ei ystyried ymysg y gorau yn y byd.<ref>http://www.guardian.co.uk/education/2009/may/10/universityguide-cardiff-uni Canllaw y Guardian i'r Brifysgol, 2013.</ref> Yn hynny o beth, mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion [[Grwp Russell]].
 
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy [[Siarter brenhinol|Siarter Frenhinol]] ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol [[Meddygaeth|Feddygaeth]] oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.<ref>http://www.hefcw.ac.uk/about_he_in_wales/higher_education_institutions/cardiff_university.aspx Tudalen y Brifysgol ar wefan HEFCW.</ref> Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Newidwyd hynny i Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol Prifysgol Caerdydd.