Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Helyntion Beca"

Ychwanegwyd 115 beit ,  6 blynedd yn ôl
del a dol
(del a dol)
[[Delwedd:RebeccaRiots.gif|300px|bawd|Digriflun o'r ''London Illustrated News'' yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth]]
[[Delwedd:Cri'r Dylluan (llyfr).jpg|bawd|Nofel gan [[T. Llew Jones]]: [[Cri'r Dylluan]] (2005) am helyntion Beca]]
[[Gwrthryfel]] gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y [[Ffordd dyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] oedd '''Helyntion Beca''' (hefyd '''Becca'''), a barodd o [[1839]] hyd [[1844]]. Trawodd Beca gyntaf yn [[Efail-wen]] ar yr [[13 Mai]] [[1839]], gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y [[6 Mehefin]] yn yr un flwyddyn ac eto ar yr [[17 Gorffennaf]]. Llosgwyd y tolldy y tro hwn. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr [[1843]] a gwanwyn [[1844]] ledled [[Gorllewin Cymru|de-orllewin Cymru]]. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn [[Sir Gaerfyrddin]].