Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 7:
Yn [[845]] crewyd teyrnas unedig yn Llydaw gan [[Nevenoe]] ([[Ffrangeg]]: Nominoë), Dug Llydaw, pan orchfygodd [[Siarl Foel]], brenin Ffrainc ym Mrwydr Ballon yn nwyrain Llydaw. Grorchfygwyd Siarl Foel eto gan y Llydawyr dan [[Erispoe]] ym Mrwydr Jengland yn [[851]], a bu raid i Siarl gydnabod annibyniaeth Llydaw.
 
Yn [[Rhyfel Olyniaeth Lydaw]], rhwng [[1341]] a [[1364]], fe wrthdarodd cynghreiriaid [[Lloegr]] yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Yn [[1488]] gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r [[Swistir]] a'r [[Eidal]]. Gorfodwyd Dug Llydaw, Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas ei ferch, [[Anna, Duges Llydaw|Anna]]. Y Dduges Anna oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol; gorfodwyd hi i briodi [[Louis XII, brenin Ffrainc]], a phan fu hi farw ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn [[1532]]. Roedd gan Llydaw rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan [[1789]]. Gwrthryfel yn erbyn y [[Chwyldro Ffrengig]] oedd y ''[[Chouanted]]'', a gefnogwyd gan y Saeson. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]].
 
Datblygodd y mudiad cenedlaethol Llydewig modern tua diwedd y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganrif]]. Pan orchfygwyd Ffrainc gan [[Yr Almaen]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]], bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis [[Roparz Hemon]] gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw.
 
Pan rannwyd Ffrainc yn dalaethiau gweinyddol, nid oedd talaith ''Bretagne'' ond yn cynnwys pedwar allan o'r pump ''departement'' oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd [[Loire-Atlantique]], sy'n cynnwys [[Nantes]], un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]].
 
{{Hanes y Gwledydd Celtaidd}}