SuperTed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Anime geek (sgwrs | cyfraniadau)
Yes!!!
Delwedd
Llinell 24:
==Stori==
Mae pob pennod o'r gyfres yn dechrau gyda hanes sut daeth SuperTed i fod yn fyw: Roedd yn [[arth]] mewn ffatri degannau lle canfuwyd ei fod yn ddiffygol a'i daflu i ffwrdd mewn storfa yn y selar. Fe'i darganfuwyd gan Smotiog yno a daeth yntau ag ef i fywyd gyda'i 'lwch hudol'. Yn ddiweddarach, cymerwyd ef at [[Mam Natur]] a rhoddwyd pŵerau [[hud]]ol iddo a oedd yn ei alluogi i ymladd yn erbyn drygioni. Mae'r drwg fel arfer yn dod ar ffurf Dai Texas (cowboi drwg) a'i gang: Clob (ffŵl tew) a Sgerbwd (sgerbwd anfarwol sy'n gwisgo sliperi pinc). Mae cynllwyniau Dai Texas fel arfer wedi'u hanelu at gynyddu ei gyfoeth, rheoli'r byd, neu ddinistrio SuperTed.
[[Delwedd:Cyfres Superted Superted yn y Gofod (llyfr).jpg|bawd|chwith|Llyfr ''[[Superted yn y Gofod]]'' (1980).]]
 
Gweithredir pŵerau SuperTed gan "air hud cyfrinachol", mae SuperTed yn ei sibrwd pob tro mae ef neu rywun arall mewn trafferth, ac mae'n trawsnewid i wisg coch tegyg i [[Superman]], gyda rocedi ar waelod ei esgidiau sy'n ei alluogi i hedfan.