Barclodiad y Gawres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Catss using AWB
Llinell 7:
Barclodiad y Gawres yw'r siambr gladdu fwyaf yng Nghymru. Mae'n esiampl o'r beddau cyntedd ar ffurf groes, ar yr un cynllun a nifer o siambrau claddu yn [[Iwerddon]] megis [[Newgrange]]. Nodwedd ddiddorol arall yw bod nifer o'r [[meini Neolithig wedi eu haddurno]] â llinellau igam-ogam. Ychydig iawn o gerrig wedi'u cerfio fel hyn sydd ar gael yng Nghymru: [[Bryn Celli Ddu]], [[Cerrig Neolithig Llanfechell|Llanfechell]], [[Cerrig Cae Dyni|Cae Dyni]] yn Llŷn a [[Cerrig Garn Wen|Garn Wen]] a [[Cerrig Garn Turne|Garn Turne]] ym [[Penfro|Mhenfro]].<ref>Y Faner Newydd, Rhif 47, Gwanwyn 2009</ref>
 
Bu cloddio archeolegol yma yn 1952-3. Un darganfyddiad oedd bod olion sy'n dangos i dân gael ei gynnau yn y rhan ganol, a chawl wedi ei wneud o amrywiaeth ryfedd o anifeiliaid a physgod wedi ei dywallt trosto. Ymddengys fod hyn yn rhan o ryw ddefod.
 
Mae'r siambr wreiddiol wedi ei hamgylchynu gan domen goncrit er mwyn ei gwarchod. Mae dan ofal [[Cadw]] ond er mwyn ymweld â thu yn y domen rhaid cael [[allwedd|agoriad]].
 
== Cyfeiriadau ==