Eglwys y Santes Fererid, y Rhath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B dolen Capel anwes |
||
Llinell 7:
|diocese = [[Esgobaeth Llandaf]]
}}
{{Comin|Category:St Margaret's Church, Roath|Eglwys y Santes Fererid
Eglwys plwyf [[y Rhath]], yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], yw '''Eglwys y Santes Fererid o [[Antiochia]]'''. Adeilad [[Adfywiad Gothig|neo-gothig]] ydyw, a'i adeiladwyd rhwng 1869 a 1870, ond saif ar safle capel canoloesol. Fe'i ystyrir yn un o weithiau gorau'r pensaer Cymreig [[John Prichard]].<ref name="Newman">{{cite book|last=Newman|first=John|year=1995|title=Glamorgan|series=''The Buildings of Wales''|location=Llundain|publisher=Penguin|page=297}}</ref>
[[Capel anwes]] i briordy'r Santes Fair yn nhref Caerdydd oedd ar y safle hon yn wreiddiol. Daeth John Stuart, [[Ardalydd Bute|Ardalydd 1af Bute]], yn dirfeddiannwr ar yr ardal ym y 18fed ganrif hwyr, ac fe estynodd yr eglwys gyda mawsolëwm ar ei gyfer ef a'i deulu ym 1800. Wrth i'r Rhath droi'n faesdref o Gaerdydd a'r nifer o drigolion yn cynyddu'n sylweddol, penderfynwyd dymchwel yr eglwys, a oedd yn awr yn rhy fechan ar gyfer y plwyf.<ref name="Rose"/> Dechreuwyd ei ail-adeiladu i gynlluniau'r Cyrnol Alexander Roos ym 1867, ond â'r sylfeini wedi'u gosod penderfynodd y 3ydd Ardalydd, a oedd wedi troi'n 21 oed, i benodi John Prichard yn ei le.<ref>{{cite book |title=Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape |last=Hilling |first=John B. |year=1973 |publisher=Lund Humphries |location=Llundain|ref=harv|page=119}}</ref>
Yn yr eil ogledd-orllewinol cododd Prichard mawsolëwm newydd ar gyfer y Buteiaid ym 1881–6, mewn arddull mwy crand na gweddill yr adeilad.<ref name="Newman"/> Cynlluniodd hefyd feindwr trawiadol ar gyfer yr eglwys, ond ni adeiladwyd hyn erioed a codwyd tŵr gymharol isel yn ei le ym 1926, fel cofeb i'r plwyfolion a fu farw yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru|Rhyfel Byd Cyntaf]].<ref name="Rose">{{cite book|last=Rose|first=Jean|year=2013|title=Cardiff Churches Through Time|location=Stroud|publisher=Amberley Publishing|pages=18–20}}</ref> Dinistrwyd llawer o'r cerrig bedd yn y fynwent gan gyngor y ddinas mewn ymgyrch i'w 'dacluso' ym 1969.<ref name="Rose"/>
|