David Davies, Llandinam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llywenan (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llywenan (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Gyrfa==
Roedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd ac yn dechrau gwaith fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu [[rheilffordd]] rhwng [[Llanidloes]] a [[Y Drenewydd|'r Drenewydd]]. Wedyn cafodd tir o'r teulu [[Crawshay (teulu)|Crawshay]] yng [[Y Rhondda|Nghwm Rhondda]] a dechrau [[pwll glo]] yno. Fodd bynnag, nid oedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen lo yn llwyddiannus a daeth ei arian i ben wrth chwilio amdanoamdani. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno. Sylfaenwyd pyllau glo'r [[Pwll glo'r Parc|Parc]], [[Treorci]] a [[Maendy]] gan Davies. Oherwydd hynny, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.
 
Achos fod [[Ardalydd Bute]] yn dal i godi taliadau yn nociau [[Caerdydd]], adeiladodd Davies dociau glo newydd yn [[Y Barri]], porthladd mwyaf Cymru erbyn [[1914]].