Cwrw mwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Math o gwrw a fregir gan ddefnyddio haidd brag wedi ei sychu un ai dros dân agored neu mewn popty yw '''cwrw mwg''' ([[Almaeneg]]: ''Rauchbier''). Fel yr awgrymir gan ei enw, mae iddo flas myglyd unigryw.
 
Yn y [[18fed ganrif]] daeth sychu brag y tu fewn i [[odyn]] yn fwyfwy cyffredin, ac erbyn canol y 19eg ganrif, prin y defnyddid unrhyw ddull arall i sychu brag. Mae'r dull hwn yn sianelu'r mwg i ffwrdd o'r brag llaith ac felly nid yw'r brag yn dwyn blas myglyd. O'r herwydd, daeth yn anoddach dod o hyd i gwrw mwg tan iddo bron mynd yn anghof yn y diwydiant bragu. Serch hynny, yn ddiweddar mae'r math hwn o gwrw wedi ennill poblogrwydd, ynghyd â nifer o fathaueraill, llai cyffredin eraill, o gwrw.
 
[[Categori: Cwrw]]