Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 13:
Datblygodd y mudiad cenedlaethol Llydewig modern tua diwedd y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganrif]]. Pan orchfygwyd Ffrainc gan [[Yr Almaen]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]], bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis [[Roparz Hemon]] gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw.
 
Pan rannwyd Ffrainc yn dalaethiau gweinyddol, nid oedd talaith ''[[Bretagne]]'' ond yn cynnwys pedwar allan o'r pump ''departement'' oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd [[Loire-Atlantique]], sy'n cynnwys [[Nantes]], un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]]; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth [[Alan Stivell]] yn adnabyddus.Mae mudiad [[Diwan]] wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.
 
Ar [[16 Mawrth]] [[1978]], drylliwyd y llong ''[[Amoco Cadiz]]'' gerllaw porthladd bychan [[Portsall]] yn [[Ploudalmézeau]]. Collwyd rhan helaeth o'i llwyth o [[olew]] i'r môr, gan greu difrod mawr ar draethau gogleddol Llydaw.