Brwydr Clontarf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 17 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q868027 (translate me)
Kelvin (sgwrs | cyfraniadau)
B spás iomarcach
Llinell 1:
Brwydr bwysig yn hanes [[Iwerddon]] oedd '''Brwydr Clontarf''' ([[Gwyddeleg]]: ''Cath Chluana Tarbh''), a ymladdwyd ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]] ([[23 Ebrill]]), [[1014]]. Ymladdwyd y frwydr rhwng [[Uchel Frenin Iwerddon]], [[Brian Boru]] (''Brian mac Cennétig'') a byddin Brenin [[Leinster]], [[Máel Mórda mac Murchada]], oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr [[Dulyn]] dan arweiniad cefnder Máel Mórda , [[Sigtrygg Farf Sidan]] (un o hynafiaid [[Gruffudd ap Cynan]] ar ochr ei fam, [[Ragnell]], y cyfeirir ato fel 'Sutrig frenin' yn yr achrestr yn ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'').
 
Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.