John Blackwell (Alun): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Bardd]] o [[Cymry|Gymro]] oedd '''John Blackwell''' (tua diwedd [[1797]] - [[19 Mai]], [[1841]]). Ei [[enw barddol]] oedd '''Alun'''.
 
Cafodd ei eni ym [[Ponterwyl|Mhonterwyl]], ger [[Yr Wyddgrug]], [[Sir y Fflint]]. Crydd oedd o wrth ei alwedigaeth ond cafodd ysgoloriaeth i fynd i [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Goleg yr Iesu, Rhydychen]] trwy garedigrwydd bnoheddwyr a chlerigwyr a edmygai flaenffrwyth ei [[awen]]. Graddiodd yn [[1828]] a chafodd ei ordeinio i guradiaeth [[Treffynnon]] lle y bu am bedair blynedd. Symudodd wedyn i lawr i [[Manordeifi|Fanordeifi]] yng ngogledd [[Sir Benfro]] fel rheithior y plwyf a bu byw yno am weddill ei oes. Bu farw yn 1841 yn 42 oed.
Llinell 8:
 
==Llyfryddiaeth==
*John Blackwell: ''Ceinion Alun'', gol. Gutyn Padarn ([[Isaac Clarke]], Rhuthun, 1851). Cyfrol sy'n cynnwys cofiant diddorol hanner can tudalen
 
Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi wedi'u golygu gan [[Owen M. Edwards]] yng ''[[Cyfres y Fil|Nghyfres y Fil]] (1909).