Románsh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Romansh language composite.png|bawd|Agweddau gweledol o'r iaith.]]
Mae '''RomaunschRománsch''' (''rumantsch'', ''rumauntsch'', ''romontsch'', ''rumàntsch'') yn iaith [[Rhaetieg|Raetiaidd]] yng nghangen [[Ieithoedd Italaidd|Italaidd]] y teulu ieithyddol [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|Indo-Ewropeaidd]].
 
== Siaradwyr ==
Sieredir RomaunschRománsch yn ardal [[yr Alpau Grison]] yn ne'r [[Swistir]] heddiw, ond ar un adeg roedd hi'n cael ei siarad hefyd yn ardal [[Llyn Constans]] yng ngogledd [[yr Eidal]].
 
Dim ond rhyw 50,000 o siaradwyr RomaunschRománsch a geir heddiw. Mae eu hiaith yn rhanedig gyda phump [[tafodiaith]] bur wahanol i'w gilydd, sef ''Sursilvan / Obwaldisch'' (yn rhannau uchaf [[Dyffryn Rhine]]), ''Sutsilvan / Nidwaldisch'' (yn Tungleasta, Mantogna a Schona), Surmiran / Oberhalbsteinisch'' (yn Sursés a [[Val d'Alvra]]), ''Oberengadinisch'' (yn [[Engadine]] Uchaf) ac ''Unterengadinisch'' (yn Engadine Isaf). Mae'r [[Almaeneg]] yn ail iaith i bob siaradwr RomaunschRománsch.
[[Delwedd:KARTE schweiz sprachen.png|bawd|chwith|Map o'r Swistir gan ddangos lleoliad y siaradwyr Románsh (llwydlas).]]
 
== Llenyddiaeth ==
Mae gan y RomaunschRománsch draddodiad llenyddol digon anrhydeddus. Ar wahân i destun unigryw o'r [[12fed ganrif]], tyfodd llenyddiaeth bur sylweddol ers cyfnod y [[Diwygiad Protestannaidd]], gyda'r testun printiedig cyntaf yn ymddangos yn y flwyddyn [[1552]]. Yn [[1938]] enillodd RomaunschRománsch statws swyddogol yn y Swistir fel pedwaredd iaith (yn ei thalaith).
 
Mae llyfrau'n cael eu hargraffu yn y tafodieithoedd hyn i gyd, ond yn bennaf yn Sursilvan. Dysgir RomaunschRománsch yn ysgolion yr ardal ieithyddol RomaunschRománsch. Nid yw'r ymdrechion i greu iaith lenyddol safonol gyffredin i bob un o'r tafodieithoedd hyn wedi cael llawer o lwyddiant hyd yn hyn.
 
== Enghreifftiau o Románsh ==