Wicipedia:Cymorth iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 446:
Sut ddylai cyfieithu enwau prifysgolion os nad oes enw Cymraeg? Mae'r rhan fwyaf o erthyglau yn cyfieithu (er engraifft) 'University of x' i 'Prifysgol x' ond beth am rhywbeth megis 'Birmingham City University'? 'Prifysgol Birmingham City' neu 'Prifysgol Dinas Birmingham'? neu 'x Metropolitan University'? [[Defnyddiwr:Danielt998|Danielt998]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Danielt998|sgwrs]]) 22:02, 30 Ebrill 2014 (UTC)
 
:Yn bersonol byddwn yn defnyddio'r ffurf byddwyf yn fwyaf cyffyrddus efo fo - sydd fawr o help er mwyn creu rheol! Byddwn yn ddigon hapus defnyddio "Prifysgol Dinas Byrmingham", ond yn fwy cyffyrddus efo Prifysgol "Birmingham Metropolitan". Sut mae'r Saesneg yn ymdrin â Phrifysgolion / sefydliadau eraill o wledydd fel Ffrainc, Tsieina, Rwsia ac ati? [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 01:15, 1 Mai 2014 (UTC)
 
::Cytuno efo Alwyn; o'r dewis uchod, yn bersonol, y ffurf mwyaf cyfforddus gen i ydy: Prifysgol Dinas Birmingham, gan edrych ar Prifysgol / dinas fel disgrifiad yn hytrach nag enw. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 04:27, 1 Mai 2014 (UTC)