Thomas Gwynn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 41:
 
==Ei fywyd==
Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn [[Dinbych|Ninbych]] ac [[Abergele]]. Daeth yn is-olygydd ''[[Baner ac Amserau Cymru]]'' (''Y Faner'') yn [[1890]]. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Gee]] sy'n dryll i'w oes yn ogystal â'i waith. Yn 1894 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i [[Isaac Foulkes]]. Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar [[Yr Herald]] a'r [[Caernarvon and Denbigh Herald]]. Bu wedyn yn olygydd ar [[Papur Pawb|Bapur Pawb]]. Aeth i weithio i'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]] ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Yn [[1919]] daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw.
 
Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902]] am ei awdl ''[[Ymadawiad Arthur]]''.
 
Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon.
Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i [[DU|Brydain]] yn y rhyfel.