Llawysgrifau Cwrtmawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5197269 (translate me)
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
dolenni
Llinell 1:
Casgliad sylweddol o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]] gwerthfawr a gasglwyd gan [[John Humphreys Davies]] o'r Cwrtmawr, ger [[Llangeitho]], [[Ceredigion]] yw '''Llawysgrifau Cwrtmawr'''. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], yn rhodd gan J. H. Davies.
 
Mae'r casgliad yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd [[yr Oesoedd Canol]] hyd y [[18fed ganrif]]. Testunau [[llenyddiaeth Gymraeg]] yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd.
 
Plasdy hynafol ger Llangeitho yw'r Cwrtmawr (Cwrt Mawr, Cwrt-mawr). Ceir atgofion [[T. I. Ellis]] amdano yn chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, pan fu'n gartref i J. H. Davies, yn y gyfrol ''Crwydro Ceredigion'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]]).<ref>T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' (Cyfres Crwydro Cymru'', 1952), tt. 61-2.</ref>