Fe'i ganwydanwyd yn [[Barcelona]] i deulu o grefftwyr. Ar ôl dal teiffws symudodd i fyw yn ardal gwledig Montroig, ger [[Tarragona]], er mwyn adfer ei iechyd.<ref name="Grove"/> Roedd ei blentyndod gwledig yn ysbrydoliaeth gyson iddo. Daeth trobwynt yn ei yrfa ym 1918 pan gafodd arddangosfa o'i waith yn oriel Lluís Dalmau; Dalmau oedd y cyntaf i arddangos gwaith peintwyr ''avant-garde'' [[Paris]] yn Barcelona. Bu'r arddangosfa yn fethiant a penderfynodd Miró symud i Baris.<ref name="Grove"/> Uchafbwynt ei waith cynnar yn nhyb rhai<ref>Er enghraifft Robert Hughes yn ''The Shock of the New'' (1980)</ref> oedd ''Y Fferm'' (1921–2), sy'n crynhoi ei atgofion o Montroig. Am nad oedd gan yr orielau arferol ddiddordeb yn y gwaith hwn fe'i werthodd i'w ffrind, yr awdur o Americanwr [[Ernest Hemingway]]; yn [[Oriel Gelf Genedlaethol (UDA)|Oriel Gelf Genedlaethol]] yr Unol Daleithiau y mae'r llun bellach.<ref name="Grove"/>
[[Delwedd:Dona i Ocell.JPG|bawd|chwith|160px|''Dona i Ocell'' ("Merch ac Aderyn", 1982), Parc Joan Miró, Barcelona]]