Gwastraff niwclear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 14:
 
==Gwastraff niwclear gwledydd Prydain==
Ceir dwy orsaf niwclear yng Nghymru: [[Wylfa]] a [[Atomfa Trawsfynydd|Thrawsfynydd]] - ill dwy bellach yn ddi-waith, ond yn llawn ymbelydredd. Ceir nifer o orsafoedd tebyg drwy wledydd Prydain lle'r ystyrir crynhoi'r holl wastraff o bob atomfa yng ngwledydd Prydain mewn un lle. Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Staffan yn chwilio am un man i gladdu'r gwastraff hwn, ac yn gofyn i gymunedau gynnig eu hunain. Mae hyn yn cynnwys yr holl wastraff a grewyd mewn gorsafoedd megis Windscale (bellach: Selafield) sydd wedi eistedd yno, heb ei drin ers y 1960au. Cred yr Adran ei bod yn haws perswadio cymunedau lle ceir atomfeydd ee Wylfa a Thrawsfynydd a chynigiant wobr i'r cymunedau hyn ee ysgol newydd, neu swyddi ychwanegol.
 
 
Mae'r ymgyrchwyr yn erbyn canoli'r gwastraff yng Nghymru'n cynnwys:
*[[PAWB]] (Pobl Atal Wylfa-B)
 
Yn Nhachwedd 2013 cynhaliwyd pedwar cyfarfod: Llandudno, Penrith (yr Alban), Caerwysg a Llundain i annog siroedd i wahodd dran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Staffan a chwmniau megis y cwmni datgomisiynu niwclear Nuvia a chwmni Carillion i gychwyn ar y gwaith. Roedd siroedd Gwynedd, Caer, Amwythig yn bresennol yn y cyfarfod yn Llandudno yn ogystal a chynrychiolaeth o Lerpwl.<ref>Golwg; 10 Ebrill; tudalen 4.</ref>
 
==Darpariaeth Storio Daearegol==
 
==Gweler hefyd==