Huw Lewys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Changed reference frmt; using AWB
Llinell 1:
Clerigwr a [[llenor Cymraeg]] oedd '''Huw Lewys'''<ref>Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).</ref><ref name="J. Gruffydd, 1926">W. J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru. Rhyddiaith o 1540 hyd 1660'' (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).</ref> (hefyd '''Hugh Lewis'''<ref name="ReferenceA">Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru).</ref>) ([[1562]] - [[1634]]), a gofir yn bennaf fel awdur y gyfrol ''[[Perl mewn Adfyd]]''.
 
==Bywgraffiad==
Brodor o Fodellog ym mhlwyf [[Llanwnda]], ger [[Caernarfon]], oedd Hugh Lewis, a aned yno yn 1562. Hanodd o deulu enwog am offeiriaid a llenorion.<ref>W. name="J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru. Rhyddiaith o 1540 hyd 1660'' (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).<"/ref> Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen|Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen]].<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru).<name="ReferenceA"/ref>
 
Daeth yn glerigwr Anlgicanaidd ar ôl gadael Rhydychen. Yn 1590 cafodd fywoliaeth plwyf [[Llanddeiniolen]], [[Sir Gaernarfon]] ([[Gwynedd]] heddiw). Yn 1608 cafodd ei apwyntio'n Ganghellor [[Eglwys Gadeiriol Bangor]]. Yn 1623 olynodd y bardd [[Edmwnd Prys]] fel rheithor plwyfi [[Ffestiniog]] a [[Maentwrog]] ym [[Meirionnydd]]. Bu farw yn 1634.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru).<name="ReferenceA"/ref>
 
==Gwaith llenyddol==
Ei brif waith llenyddol yw'r gyfrol ''Perl mewn Adfyd'' a gyhoeddwyd yn [[Llundain]] yn 1595. Cyfieithiad i'r Gymraeg ydyw o lyfr y Protestant Seisnig [[Miles Coverdale]], sef ''A Spyrytuall and most Precious Pearle''. Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfieithiad o'r traethawd Almaeneg ''Kleinot'' gan Otto Werdmüller (bu farw 1551).<ref>W. name="J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru. Rhyddiaith o 1540 hyd 1660'' (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).<"/ref>
 
Ceir [[cywydd]] gan Huw ar ddiwedd y ''Perl mewn Adfyd'', sy'n dangos ei fod yn cyfansoddi cerddi caeth hefyd.