Joan Miró: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
gwybodlen
Llinell 1:
{{Gwybodlen Person
[[Delwedd:Portrait of Joan Miro, Barcelona 1935 June 13.jpg|bawd|dde|Joan Miró ym 1935]]
| enw =Joan Miró
[[Delwedd:| delwedd =Portrait of Joan Miro, Barcelona 1935 June 13.jpg|bawd|dde|Joan Miró ym 1935]]
| pennawd =Joan Miró ym 1935
| dyddiad_geni =20 Ebrill 1893
| man_geni =[[Barcelona]]
| dyddiad_marw =25 Rhagfyr 1983
| man_marw =[[Palma de Mallorca]]
| galwedigaeth =Artist
}}
 
Artist o [[Catalwnia|Gatalaniad]] oedd '''Joan Miró i Ferrà''' ([[20 Ebrill]] 1893 – [[25 Rhagfyr]] 1983). Caiff ei ystyried yn ffigwr blaenllaw mewn [[Swrealaeth]], er iddo erioed fod yn aelod swyddogol o'r symudiad hynny. Bu'n ddylanwadol iawn ar gyfeiriad celf haniaethol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.<ref name="Grove">{{dyf gwe|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/grove/art/T058573?q=Joan+Miro&search=quick&pos=1&_start=1#firsthit|teitl=Miró, Joan|cyfenw=Corredor-Matheos|enwcyntaf=José|gwaith=Grove Art Online|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>
Llinell 6 ⟶ 15:
 
Fe'i anwyd yn [[Barcelona]] i deulu o grefftwyr. Ar ôl dal teiffws symudodd i fyw yn ardal gwledig Montroig, ger [[Tarragona]], er mwyn adfer ei iechyd.<ref name="Grove"/> Roedd ei blentyndod gwledig yn ysbrydoliaeth gyson iddo. Daeth trobwynt yn ei yrfa ym 1918 pan gafodd arddangosfa o'i waith yn oriel Lluís Dalmau; Dalmau oedd y cyntaf i arddangos gwaith peintwyr ''avant-garde'' [[Paris]] yn Barcelona. Bu'r arddangosfa yn fethiant a penderfynodd Miró symud i Baris.<ref name="Grove"/> Uchafbwynt ei waith cynnar yn nhyb rhai<ref>Er enghraifft Robert Hughes yn ''The Shock of the New'' (1980)</ref> oedd ''Y Fferm'' (1921–2), sy'n crynhoi ei atgofion o Montroig. Am nad oedd gan yr orielau arferol ddiddordeb yn y gwaith hwn fe'i werthodd i'w ffrind, yr awdur o Americanwr [[Ernest Hemingway]]; yn [[Oriel Gelf Genedlaethol (UDA)|Oriel Gelf Genedlaethol]] yr Unol Daleithiau y mae'r llun bellach.<ref name="Grove"/>
 
[[Delwedd:Dona i Ocell.JPG|bawd|chwith|160px|''Dona i Ocell'' ("Merch ac Aderyn", 1982), Parc Joan Miró, Barcelona]]
 
Ym 1925 cymerodd Miró ran yn yr arddangosfa Swrealaidd cyntaf. Yn wahanol i weddill y Swrealwyr, gweithiai Miró mewn arddull haniaethol, ond roedd yn rhannu eu diddordeb hwy yn yr [[isymwybod]].<ref name="Hopkins"/> Dywedodd [[André Breton]], sylfaenydd y grwp, mai "Miró yw'r un mwyaf swrealaidd ohonom ni i gyd".<ref name="Grove"/>
 
[[Delwedd:Dona i Ocell.JPG|bawd|chwith|160px|''Dona i Ocell'' ("Merch ac Aderyn", 1982), Parc Joan Miró, Barcelona]]
 
Ym 1929 priododd Miró ei gyfnither, Pilar Juncosa. O hyn ymlaen teimlodd yn fwy hyderus i fod yn radical yn ei waith, gan gyhoeddi ei fod am "lofruddio" confensiynau peintio. Dechreuodd greu ''collages'' mewn deunyddiau anarferol megis pren a metel. Daeth ei waith yn fwyfwy ymosodol ym mlynyddoedd [[Rhyfel Cartref Sbaen]].<ref name="Grove"/> Creodd y murlun ''El segador (Payés catalán en rebeldía)'' ("Y cynaeafwr (Gwerinwr Catalwnaidd mewn gwrthryfel)") ar gyfer Pafiliwn Sbaen yn Arddangosfa Ryngwladol Paris ym 1937, yn yr un adeilad lle arddangoswyd campwaith [[Pablo Picasso]], ''Guernica''. Yn y pafiliwn roedd poster gan Miró ar werth o'r enw ''Aidez l'Espagne'' ("Helpiwch Sbaen"), â llun o Gatalaniad â'i ddwrn yn yr awyr.<ref>{{cite book|editor=Borja-Villel, Manuel J. et al.|title=The Collection: Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía – Keys to a Reading (Part I)|year=2010|location=Madrid|publisher=Ediciones de La Central|page=169}}</ref>