Nanga Parbat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Pakistan → Pacistan
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
}}
 
'''Nanga Parbat''' (gelwir hefyd '''Diamir''') yw'r mynydd ail-uchaf ym [[Pacistan|Mhacistan]] a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith [[Wrdw]]/[[Hindi]]. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr [[20fed ganrif]] lladdwydbu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr [[Himalaya]].
 
Gwnaed yr ymdrech gyntaf i ddringo'r mynydd yn 1895 pan gyrhaeddodd ymgyrch dan arweiniaid [[Albert F. Mummery]] uchder o bron 7,000 m, ond lladdwydbu farw Mummery a dau gydymaith ar y mynydd yn ddiweddarch. Yn y 1930au bu chwech ymgais i ddringo'r mynydd gan dimaudîmau Almaenig, ond methu a wnaeth y cafan a lladdwydbu farw dwsinau o ddringwyr. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf ar [[3 Gorffennaf]], [[1953]] gan fynyddwr o [[Awstria]], [[Hermann Buhl]]. Mae'r modd y dringodd Buhl ar ei ben ei hun i'r copa, ac yna treulio noson ar ei sefyll ar y mynydd ar y ffordd i lawr, yn un o straeon mawr mynydda.
 
Dringwyd y mynydd am yr ail dro yn 1962 gan dri Almaenwr, [[Toni Kinshofer]], [[S. Löw]], ac [[A. Mannhardt]]. Yn [[1970]] cyrhaeddodd [[Reinhold Messner|Reinhold]] a Günther Messner y copa; ond lladdwydbu farw Günther ar y ffordd i lawr. Dringodd Reinhold y mynydd ar ei ben ei hun yn 1978. Yn 1984, [[Lilliane Barrard]] o Ffrainc oedd y ferch gyntaf i gyrraedd y copa.
 
{{Copaon 8,000 medr}}