Cynghrair Rhydd Ewrop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B Gwyrddiaid → Gwyrddion (gweler e.e. Plaid Werdd)
Llinell 1:
Grŵp o bleidiau yn [[Senedd Ewrop]] yw '''Cynghrair Rhydd Ewrop''' ([[Saesneg]]: ''European Free Alliance'', EFA; [[Ffrangeg]]: ''Alliance libre européenne''). Mae'n cynnwys pleidiau cenedlaethol a rhanbarthol megis [[Plaid Cymru]], [[Plaid Genedlaethol yr Alban]], [[Unvaniezh Demokratel Breizh]] ([[Llydaw]]), [[Esquerra Republicana de Catalunya]] ([[Catalonia]]) ac [[Eusko Alkartasuna]] ([[Gwlad y Basg]]); pleidiau sy'n ceisio annibyniaeth neu ddatganoli. Fel rheol, cyfyngir aelodaeth i bleidiau adain-chwith neu ganol, felly nid yw pob plaid genedlaethol yn Ewrop yn aelod. Ar hyn o bryd maent yn cydweithio a grŵp [[GwyrddiaidGwyrddion Ewrop]] yn y Senedd Ewropeaidd.
 
Sefydlwyd y grŵp yn [[1981]], wedi i nifer o bleidiau cenedlaethol a rhanbarthol ennill seddau yn etholiad Senedd Ewrop, 1979, ond dim ond ar ôl etholiad 1989 y ffurfiwyd grŵp unedig. Yn dilyn etholiad Senedd Ewrop 2004, roedd gan y cynghrair bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd; dau o Blaid Genedlaethol yr Alban, un o Blaid Cymru ([[Jillian Evans]]) ac un o [[Esquerra Republicana de Catalunya]] (Chwith Weriniaethol Catalonia); hanner y ffordd trwy gyfnod y senedd, cymerwyd lle yr olaf gan aelod o Eusko Alkartasuna .