Cwpan y Byd Pêl-droed 1958: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B REFS - nam; diangen
Llinell 26:
Cynhaliwyd '''Cwpan y Byd Pêl-droed 1958''' yn [[Sweden]] rhwng 8 Mehefin a 29 Mehefin 1958. Dyma oedd y chweched tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal. Llwyddodd [[Sweden]] i ennill yr hawl i gynnal y bencampwriaeth yn ystod cyfarfod Cyngres [[Fifa]] yn [[Rio de Janeiro]] yn ystod [[Cwpan y Byd Pêl-droed 1950|Cwpan y Byd 1950]] yn [[Brasil]]<ref>{{cite web |url=http://www.fifa.com/mm/document/fifafacts/mencompwc/51/97/81/ip-201_13a_fwc-host.pdf |title=Fifa World Cup Host Announcement Decision |type=PDF |published=fifa.com}}</ref> gan ddod â'r arfer o symud y twrnament rhwng yr Americas ac [[Ewrop]] am yn ail, i ben.
 
Roedd [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Sweden|Sweden]] yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol fel y sawl oedd yn cynnal y twrnament, gyda [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Gorllewin Yr Almaen|Gorllewin Yr Almaen]] hefyd yn ymuno â nhw yn y rowndiau terfynol fel y deiliaid. Cafwyd 53 o wledydd eraill yn ceisio am 14 lle yn y rowndiau terfynol - y nifer fwyaf ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1930<ref name="History of the World Cup">{[cite book |title=A History of the World Cup, 1930-2010 |last=Lisi |first=Clemente |date=2011 |publishers=Scarecrow Press |ISBN=9780810877535 |page=76}}</ref>.
 
Dyma oedd y tro cyntaf i [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru|Gymru]], [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Gogledd Iwerddon|Gogledd Iwerddon]] a'r [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Undeb Sofietaidd|Undeb Sofietaidd]] gyrraedd y rowndiau terfynol ac hefyd y tro cyntaf - a hyd yma yr unig dro - i bedair gwlad [[Ynysoedd Prydain]] - [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru|Cymru]], [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Gogledd Iwerddon|Gogledd Iwerddon]], [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru|Lloegr]] ac [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Yr Alban|Yr Alban]] - ymddangos yn yr un twrnament.