Y Faenol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Faolin42 (sgwrs | cyfraniadau)
fix typo
Llinell 5:
 
==Hanes yr ystâd==
Esgobaeth Bangor oedd yn gyfrifol am y stâd yn wreiddiol ac fe'i trosglwyddwyd ar lês yn yr 16eg ganrif i deulu [[Cochwillan]] a phan farwodd Syr William Williams yn ddi blant ym 1696, trosglwyddodd y lle i Goron Lloegr. Tua 1723 cyflwynwyd hi i John Smith, Tedworth, [[Hampshire|Swydd Hampshire]] ac yna i'w nai [[Thomas Assheton Smith|Thomas Assheton]] o Ashley, [[Sir Gaer]] yn 1762. Newidiod ei enw i 'Smith' yn 1774. Assheton-Smith oedd trydydd tir feddiannwr mwyaf Gwynedd. Cyfanswm ei renti yn 1806 oedd £42,000, gyda [[Chwarel Dinorwig]] hefyd yn llenwi ei bwrs ac a oedd yn y flwyddyn honno yn allfotrio 20,000 tunnell o lechi. Roedd ganddo ystadau yn Lloegr hefyd, a disgrifiodd ei dad y Faenol yn 1792, fel' ''once the mansion of conviviality and mirth, now the the neglected seat of A. Smith Esq.'' Priododd Elizabeth, merch Watcyn Wynn o Stâd y Foelas.
 
Yn 1809 ychwanegodd dros ddwy fil a hanner o erwau at ei eiddo drwy yrru milwyr ar geffylau i amgylchynu tir comin [[Llanddeiniolen]] er gwaethaf gwrthwynebiad y tyddynwyr lleol.