Gemau'r Gymanwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y [[Gymanwlad]] ydi '''Gemau'r Gymanwlad''' (a elwid cynt yn '''''Gemau Ymerodraeth Prydain''''' (1930-1950), '''''Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad''''' (1954-1966) ac yn '''''Gemau'r Gymanwlad Brydeinig''''' (1970-1974)<ref>{{cite web |url=http://www.thecgf.com/games/story.asp |title=The Story of the Commonwealth Games |published= thecgf.com}}</ref>). Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn [[Hamilton]], [[Ontario]], [[Canada]] ym [[Gemau Ymerodraeth Prydain 1930|1930]] a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr [[Ail Ryfel Byd]]). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y [[Gemau Olympaidd]] a [[Gemau Asia]].
 
[[Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad]] sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.