Alecsander Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
citation added
Dimth (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:BattleofIssus333BC-mosaic-detail1.jpg|thumb|right|250px|Alecsander ym mrwydr Issus. [[Mosaic]] yn Amgueddfa Archaeolegol Gendelaethol [[Napoli]]]]
 
'''Alecsander III, brenin [[Macedon]]''', a elwir yn '''Alecsander Fawr''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Μέγας Αλέξανδρος) [[21 Gorffennaf]] [[356 CC]] - [[13 Mehefin]] [[323 CC|323]] oedd brenin Macedon rhwng 336 a 323. Cafodd ei eni yn ninas [[Pella]], prifddinas Macedon, yn fab i [[Philip II, brenin Macedon|Philip II]] a'i wraig [[Olympias]]. Concwerodd y rhan fwyaf o'r [[Ymerodraeth Bersaidd]] a rhan fawr o hynny o'r byd oedd yn wybyddus yn ei amser ef.
 
Yr oedd tad Alecsander, Philip II, wedi adeiladu byddin effeithiol dros ben ac wedi concro dinasoedd [[Groeg yr Henfyd|Groeg]]. Yn 13 oed rhoddwyd ef dan ofal [[Aristoteles]] fel tiwtor. Erbyn 340 yr oedd ei dad eisoes yn rhoi rhan iddo yn llywodraeth y deyrnas. Yn [[338 CC]], ef oedd pennaeth adain chwith byddin Philip ym [[Brwydr Chaeronea (338 CC)|Mrwydr Chaeronea]], buddugoliaeth a wnaeth Philip yn feistr ar Wlad Groeg.