{{Comin|Category:St Margaret's Church, Roath|Eglwys y Santes Fererid}}
Eglwys plwyf [[y Rhath]], yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], yw '''Eglwys y Santes Fererid o [[Antiochia]]'''. Adeilad [[Adfywiad Gothig|neo-gothig]] ydyw, a'i adeiladwyd rhwng 1869 a 1870, ond saif ar safle capel canoloesol. Fe'i ystyrir yn un o weithiau gorau'r pensaer Cymreig [[John Prichard]].<ref name="Newman">{{cite book|last=Newman|first=John|year=1995|title=Glamorgan|series=''The Buildings of Wales''|location=Llundain|publisher=Penguin|page=297}}</ref>
[[Capel anwes]] i briordy'r Santes Fair yn nhref Caerdydd oedd ar y safle hon yn wreiddiol. Daeth John Stuart, [[Ardalydd Bute|Ardalydd 1af Bute]], yn dirfeddiannwr ar yr ardal ymyn y 18fed ganrif hwyr, ac fe estynodd yr eglwys gyda mawsolëwm ar ei gyfer ef a'i deulu ym 1800. Wrth i'r Rhath droi'n faesdref o Gaerdydd a'r nifer o drigolion yn cynyddu'n sylweddol, penderfynwyd dymchwel yr eglwys, a oedd ynerbyn awrhynny'n yn rhy fechan ar gyfer y plwyf.<ref name="Rose"/> Dechreuwyd ei ailhail-adeiladu i gynlluniau'r Cyrnol Alexander Roos ym 1867, ond â'r sylfeini wedi'u gosod penderfynodd y 3ydd Ardalydd, a oedd wedi troi'n 21 oed, i benodi John Prichard yn ei le.<ref>{{cite book |title=Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape |last=Hilling |first=John B. |year=1973 |publisher=Lund Humphries |location=Llundain|ref=harv|page=119}}</ref>
Yn yr eilystlys ogledd-orllewinol cododd Prichard mawsolëwm newydd ar gyfer y Buteiaid ym 1881–6, mewn arddull mwy crandcrandiach na gweddill yr adeilad.<ref name="Newman"/> Cynlluniodd hefyd feindwr trawiadol ar gyfer yr eglwys, ond ni adeiladwyd hynhon erioed a codwydchodwyd tŵr gymharol isel yn ei lelle ym 1926, fel cofeb i'r plwyfolion a fu farw yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru|Rhyfel Byd Cyntaf]].<ref name="Rose">{{cite book|last=Rose|first=Jean|year=2013|title=Cardiff Churches Through Time|location=Stroud|publisher=Amberley Publishing|pages=18–20}}</ref> Dinistrwyd llawer o'r cerrig beddbeddau yn y fynwent gan gyngor y ddinas mewn ymgyrch i'w 'dacluso' ym 1969.<ref name="Rose"/>
Penodwyd yr eglwys yn [[adeilad rhestredig]] Graddfa I ym 1975 oherwydd yr addurniadau cyfoethog ar y tu fewn sy'n nodweddiadol o waith Prichard, un o benseiri eglwysig blaenaf Cymru yn y 19eg ganrif, ac oherwydd pwysigrwydd y mawsolëwm fel yr unig un o'i fath yng Nghymru.<ref name="BLB">{{dyf gwe|url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-13819-church-of-st-margaret-roath|teitl=Church of St Margaret, Penylan|gwaith=British Listed Buildings|dyddiadcyrchiad=5 Ebrill 2014|iaith=en}}</ref>