Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dwy broblem o leiaf, a dau ateb
Llinell 51:
::::::: roeddwn wedi copio'r manylion draw o en - dwi wedi egluro hynny sawl tro - dyma dwi wedi wmeud wrth uwchlwytho pob ffeil. Os oedd manylyn ar goll yna mae o hefyd ar goll ar yr ochr Saesneg. Beth bynnag, mae'n troi'n ddadl gron lle nad yw'rn helpu unrhyw un [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 18:06, 8 Mehefin 2014 (UTC)
::::::::Mae Glenn yn iawn. Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau fod y manylion yn gywir ar y ddelwedd, ac y dylid dileu delweddau sydd heb y wybodaeth gywir. OND mae'n cymryd llawer o amser i ddod i ddeall beth sydd angen ei wneud a sut i'w huwchlwytho gyda'r wybodaeth gywir. Ymwelodd defnyddiwr (Hawthone os cofiaf yn iawn) o en tua dwy flynedd yn ol gan fygwth dileu pob delwedd sydd heb y wybodaeth gywir a'n hymateb ni fel cymuned oedd y byddem yn rheoli'r delweddau ein hunain, diolch yn fawr! Mae gennym ni dros fil o ddelweddau heb y manylion angenrheidiol. Os cymrwch gip ar enghraifft: [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Delwedd%3ASainyGororau2007.jpg&diff=1614435&oldid=223155 yma] gan Defnyddiwr:Aled, ble nad oedd dim (ia - dim!) gwybodaeth ar y dudalen - dim trwydded o gwbwl na ffynhonnell o ble gafwyd y ddelwedd. Ar en, mi fyddai'r ddelwedd yma wedi para chydig funudau cyn cael ei dileu'n ddidrugaredd. Ar cy, dydy hyn ddim wedi digwydd ond mae'n holl bwysig ein bod yn sicrhau ei fod yn digwydd. Fel arall, rydym yn torri cyfraith LLoegr. Mae sawl problem a sawl ateb yma felly. Un o'r meini tramgwydd ydy nad ydy'r dull sydd gennym o uwchlwytho ar cy yn hawdd, dydy'r cyfarwyddiadau ddim cweit yn ddigon clir, ac mae angen cysoni a symlhau hyn ee awgrym i'r uwchlwythwr y gallan gopio a phastio'r manylion o en, os yw'r ddelwedd yn bodoli yn y fan honno. Efallai, Glenn, y gallwn ailedrych ar y broses yma; a sicrhau fod y delweddau a uwchlwythir o hyn ymlaen yn gywir, ond ar yr un pryd fod system yn cael ei roi ar waith i adnabod yr holl ddelweddau (etifeddol) hynny ble mae'r drwydded yn ddiffygiol. Efallai y gelli gychwyn gweithlu i adnabod y rhain, Glen, ac yna aelodau'r gweithlu i'w cywiro dros gyfnod o flwyddyn (neu ddwy!) [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 21:53, 8 Mehefin 2014 (UTC)
:Uwchlwythyd y ffeil gennych, Blogdroed, am 15:53, 20 Mai 2014. Yn ôl en, diweddarwyd y fersiwn sydd yno am 13:50, 16 Ebrill 2013‎ - mwy na blwyddyn yn ôl, felly, na, doedd dim byd ar goll o ochr en - mae hanes y ffeil yn dangos hyn. Nid wyf am ddadlau fan hyn, jyst yn cyflwyno'r ffeithiau a rheolau dwi. Mi fyddai'n cymryd blynyddoedd lawer i gyweirio pob ffeil sy'n colli trwyddedi ayyb, felly fy awgrym i ydy inni wneud yn siŵr bod pob ffeil, o hyn ymlaen, yn cael ei huwchlwytho gyda'r tagiau, trwyddedi, a manylion cywir. O ran y system uwchlwytho, mae'n ddigon clir yn fy marn i - mae wedi'i gosod yn adrannau er mwyn darllen rhwydd. Efallai y gallan ni ychwanegu rhywbeth sy'n dweud bod modd copïo a phastio o en, ond eto, bydd rhywun am gael gyfarwyddiadau o sut mae gwneud hynny! Yn fy marn i, os nad yw rhywun yn gallu cymryd dwy funud i ddarllen y cyfarwyddiadau, wedyn dylent beidio ag uwchlwytho. Osgoi trafferth i bawb, wedyn. Sori os yw hwnna yn swrth, ond nid ydym yn gallu gwneud swydd dros bawb - cyfrifoldeb nhw yw hwnna.