Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dileu Delwedd: fy ngair olaf
Rhwyfo mewn cwch gwahanol ond i'r un cyfeiriad.
Llinell 54:
 
:: Dwi'n deall ac yn derbyn y pwynt ynghylch rheolau a chyfraith gwlad ayyb -y pwynt dwi'n geisio ei wneud (yn amlwg yn sâl, gan bod neb i'w gweld yn clywed yr hyn sydd gen i i'w ddweud) yw fy mod i wedi copio'r manylion perthnasol oedd yn perthyn i'r ddelwedd o'r ochr Saesneg a'u cyfieithu i'r ochr Gymraeg ... felly roeddwn wedi gwneud popeth (yn fy marn i) i sicrhau fy mod yn uwchlwytho'r ffeil yn gyfeithiol. Y pwynt dwi'n geisio wneud yn fan hyn yw fy mod wedi dilyn y cyfarwyddiadau ond fe gafodd y ddelwedd ei dileu beth bynnag - a hynny heb eglurhâd a na, dy'w eglurhâd sydd wedi dod eisoes ddim yn tycio gan fy mod wedi gwneud popeth sydd yn cael ei awgrymu. Dwi ddim yn ceisio bod yn anodd yn fan hyn, ond un peth sy'n sicr, fydda'i ddim yn trafferth uwchlwytho ffeil eto rhag i mi dderbyn y fath gerydd eto ... a'r gymuned sydd ar ei thlotach o'r herwydd hynny. Rwan pe bai rhywun wedi dweud "gyda llaw, mae angen ffynhonell, neu teitl neu awdur" ... yna bydda'i bywyd yn llawer gwell yn byddai? Fel dwi'n deud, dyma fy marn, ac yn anffodus mae'r agwedd "wel dyna'r rheolau" yn hytrach 'na "gad i mi helpu" yn suro dyn. [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 08:36, 9 Mehefin 2014 (UTC)
:::Dw i'n cytuno efo popeth ti'n ei ddweud. Be fedra i ddim mo'i ffindio ydy dy gyfieithiad di; efallai na chafodd mo'i arbed gan y feddalwedd am ryw reswm; gelli weld wici-cod y ddalen cyn ac wedi i Glenn ychwanegu'r manylion yn [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Delwedd%3A2014_Commonwealth_Games_Logo.svg&diff=1614204&oldid=1612900 fama]. Dyna pam wnes i awgrymu wrth Glen i ailedrych ar effeithiolrwydd a symlder (neu gymhlethdod!) yr uwchlwythydd. Paid a phoeni am hyn, mae pethe fel hyn wedi digwydd i finna, ac mae'n hunllef! Yn enwedig ar en. Diolch i ti am godi hyn, oherwydd efallai y gwneith arwain at uwchlwytydd gwell, a fydd yn addas ar gyfer dechreuwyr - fel rwyt ti'n ei nodi. Dw i hefyd wedi cael cip ar logos eraill gemau'r gymanwlad, ti wedi'u huwchlwytho - ac mae'r wybodaeth arnyn nhw i'w gweld yn berffaith gywir ee [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Delwedd:199px-2010_Commonwealth_Games_Logo.png&action=edit Gemau 2010.] Ti'n gwneud gwaith bendigedig efo'r adran chwaraeon; paid a chymryd peth hyn yn bersonol, gan mai blincin peiriant sydd heb gadw'r manylion, fwy na thebyg! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 09:22, 9 Mehefin 2014 (UTC)