Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhwyfo mewn cwch gwahanol ond i'r un cyfeiriad.
goddefol
Llinell 51:
::::::: roeddwn wedi copio'r manylion draw o en - dwi wedi egluro hynny sawl tro - dyma dwi wedi wmeud wrth uwchlwytho pob ffeil. Os oedd manylyn ar goll yna mae o hefyd ar goll ar yr ochr Saesneg. Beth bynnag, mae'n troi'n ddadl gron lle nad yw'rn helpu unrhyw un [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 18:06, 8 Mehefin 2014 (UTC)
::::::::Mae Glenn yn iawn. Ein cyfrifoldeb ni ydy sicrhau fod y manylion yn gywir ar y ddelwedd, ac y dylid dileu delweddau sydd heb y wybodaeth gywir. OND mae'n cymryd llawer o amser i ddod i ddeall beth sydd angen ei wneud a sut i'w huwchlwytho gyda'r wybodaeth gywir. Ymwelodd defnyddiwr (Hawthone os cofiaf yn iawn) o en tua dwy flynedd yn ol gan fygwth dileu pob delwedd sydd heb y wybodaeth gywir a'n hymateb ni fel cymuned oedd y byddem yn rheoli'r delweddau ein hunain, diolch yn fawr! Mae gennym ni dros fil o ddelweddau heb y manylion angenrheidiol. Os cymrwch gip ar enghraifft: [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Delwedd%3ASainyGororau2007.jpg&diff=1614435&oldid=223155 yma] gan Defnyddiwr:Aled, ble nad oedd dim (ia - dim!) gwybodaeth ar y dudalen - dim trwydded o gwbwl na ffynhonnell o ble gafwyd y ddelwedd. Ar en, mi fyddai'r ddelwedd yma wedi para chydig funudau cyn cael ei dileu'n ddidrugaredd. Ar cy, dydy hyn ddim wedi digwydd ond mae'n holl bwysig ein bod yn sicrhau ei fod yn digwydd. Fel arall, rydym yn torri cyfraith LLoegr. Mae sawl problem a sawl ateb yma felly. Un o'r meini tramgwydd ydy nad ydy'r dull sydd gennym o uwchlwytho ar cy yn hawdd, dydy'r cyfarwyddiadau ddim cweit yn ddigon clir, ac mae angen cysoni a symlhau hyn ee awgrym i'r uwchlwythwr y gallan gopio a phastio'r manylion o en, os yw'r ddelwedd yn bodoli yn y fan honno. Efallai, Glenn, y gallwn ailedrych ar y broses yma; a sicrhau fod y delweddau a uwchlwythir o hyn ymlaen yn gywir, ond ar yr un pryd fod system yn cael ei roi ar waith i adnabod yr holl ddelweddau (etifeddol) hynny ble mae'r drwydded yn ddiffygiol. Efallai y gelli gychwyn gweithlu i adnabod y rhain, Glen, ac yna aelodau'r gweithlu i'w cywiro dros gyfnod o flwyddyn (neu ddwy!) [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 21:53, 8 Mehefin 2014 (UTC)
:Uwchlwythyd y ffeil gennych, Blogdroed, am 15:53, 20 Mai 2014. Yn ôl en, diweddarwyd y fersiwn sydd yno am 13:50, 16 Ebrill 2013‎ - mwy na blwyddyn yn ôl, felly, na, doedd dim byd ar goll o ochr en - mae hanes y ffeil yn dangos hyn. Nid wyf am ddadlau fan hyn, jyst yn cyflwyno'r ffeithiau a rheolau dwi. Mi fyddai'n cymryd blynyddoedd lawer i gyweirio pob ffeil sy'n colli trwyddedi ayyb, felly fy awgrym i ydy inni wneud yn siŵr bod pob ffeil, o hyn ymlaen, yn cael ei huwchlwytho gyda'r tagiau, trwyddedi, a manylion cywir. O ran y system uwchlwytho, mae'n ddigon clir yn fy marn i - mae wedi'i gosod yn adrannau er mwyn darllen rhwydd. Efallai y gallan ni ychwanegu rhywbeth sy'n dweud bod modd copïo a phastio o en, ond eto, bydd rhywun am gael gyfarwyddiadau o sut mae gwneud hynny! Yn fy marn i, os nad yw rhywun yn gallu cymryd dwy funud i ddarllen y cyfarwyddiadau, wedyn dylent beidio ag uwchlwytho. Osgoi trafferth i bawb, wedyn. Sori os yw hwnna yn swrth, ond nid ydym yn gallu gwneud swydd dros bawb - cyfrifoldeb nhw yw hwnna. <small>Heb ei arwyddo: Diwygiad 00:35, 9 Mehefin 2014 '''[[Defnyddiwr:Xxglennxx|<font color="green">Xxglennxx</font>]]''' (''[[Sgwrs_Defnyddiwr:Xxglennxx|sgw.]]'' • ''[[Special:Contributions/Xxglennxx|cyf.]]'') Nodwyd y manylion gan Llywelyn2000.</small>
 
:: Dwi'n deall ac yn derbyn y pwynt ynghylch rheolau a chyfraith gwlad ayyb -y pwynt dwi'n geisio ei wneud (yn amlwg yn sâl, gan bod neb i'w gweld yn clywed yr hyn sydd gen i i'w ddweud) yw fy mod i wedi copio'r manylion perthnasol oedd yn perthyn i'r ddelwedd o'r ochr Saesneg a'u cyfieithu i'r ochr Gymraeg ... felly roeddwn wedi gwneud popeth (yn fy marn i) i sicrhau fy mod yn uwchlwytho'r ffeil yn gyfeithiol. Y pwynt dwi'n geisio wneud yn fan hyn yw fy mod wedi dilyn y cyfarwyddiadau ond fe gafodd y ddelwedd ei dileu beth bynnag - a hynny heb eglurhâd a na, dy'w eglurhâd sydd wedi dod eisoes ddim yn tycio gan fy mod wedi gwneud popeth sydd yn cael ei awgrymu. Dwi ddim yn ceisio bod yn anodd yn fan hyn, ond un peth sy'n sicr, fydda'i ddim yn trafferth uwchlwytho ffeil eto rhag i mi dderbyn y fath gerydd eto ... a'r gymuned sydd ar ei thlotach o'r herwydd hynny. Rwan pe bai rhywun wedi dweud "gyda llaw, mae angen ffynhonell, neu teitl neu awdur" ... yna bydda'i bywyd yn llawer gwell yn byddai? Fel dwi'n deud, dyma fy marn, ac yn anffodus mae'r agwedd "wel dyna'r rheolau" yn hytrach 'na "gad i mi helpu" yn suro dyn. [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 08:36, 9 Mehefin 2014 (UTC)
:::Dw i'n cytuno efo popeth ti'n ei ddweud. Be fedra i ddim mo'i ffindio ydy dy gyfieithiad di; efallai na chafodd mo'i arbed gan y feddalwedd am ryw reswm; gelli weld wici-cod y ddalen cyn ac wedi i Glenn ychwanegu'r manylion yn [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Delwedd%3A2014_Commonwealth_Games_Logo.svg&diff=1614204&oldid=1612900 fama]. Dyna pam wnes i awgrymu wrth Glen i ailedrych ar effeithiolrwydd a symlder (neu gymhlethdod!) yr uwchlwythydd. Paid a phoeni am hyn, mae pethe fel hyn wedi digwydd i finna, ac mae'n hunllef! Yn enwedig ar en. Diolch i ti am godi hyn, oherwydd efallai y gwneith arwain at uwchlwytydd gwell, a fydd yn addas ar gyfer dechreuwyr - fel rwyt ti'n ei nodi. Dw i hefyd wedi cael cip ar logos eraill gemau'r gymanwlad, ti wedi'u huwchlwytho - ac mae'r wybodaeth arnyn nhw i'w gweld yn berffaith gywir ee [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Delwedd:199px-2010_Commonwealth_Games_Logo.png&action=edit Gemau 2010.] Ti'n gwneud gwaith bendigedig efo'r adran chwaraeon; paid a chymryd peth hyn yn bersonol, gan mai blincin peiriant sydd heb gadw'r manylion, fwy na thebyg! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 09:22, 9 Mehefin 2014 (UTC)
 
:::Mae'r pwynt mae |Blogdroed yn ei wneud ynghylch rhoi cymorth ac amser i'r uwchlwythwr i gywiro'r ddelwedd hefyd yn bwysig. Does dim rhaid i ni gopio en yn slafaidd ac yn ddidrugaredd! Beth am lunio polisi ynghylch hyn, sydd yn fwy goddefol a phositif? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 09:31, 9 Mehefin 2014 (UTC)