Ymgarthion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Y gwastraff o [[system dreulio]] [[anifail]] yw '''ymgarthion''', '''ysgarthion''' neu '''gachu''' (Saesneg: ''faeces'').<ref>Geiriadur yr Academi; Gwasg Prifysgol Cymru, 1995; tudalen F:502</ref> Defnyddir y gair "carthu" a "charthion" ar lafar gwlad gan [[amaeth]]wyr wrth sôn am lanhau'r beudy, a tharddiad y gair hwn yw ''cartharsis''. Defnyddir y gair "dom" yn y Beibl yn ei le. Gelwir y weithred o gael gwared â'r gwastraff hwn o'r corff yn [[ysgarthu]].
 
Wedi i anifail fwyta a thrulio bwyd, mae'r hyn sydd'n weddill ohono'n cael ei yrru allan o'r corff drwy'r [[anws]]. Mae'r ymgarthion yma'n cynnwys hyd at 50% o'r maeth oedd ynddo cyn ei dreulio.<ref name=Campbell>''Biology'' (4ydd rhifyn) N.A.Campbell (Benjamin Cummings NY, 1996) ISBN 0-8053-1957-3</ref> Mae llawer o organebau fel [[bacteria]], [[ffwng]] neu'r chwilen dom, felly'n bwyta'r ymgarthion hyn a gallent ganfod y bwyd drwy ei ogla o hirbell.<ref>{{cite journal |doi=10.1038/scientificamerican1179-146 |author=Heinrich B, Bartholomew GA |title=''The ecology of the African dung beetle'' |journal=[[Scientific American]] |volume=241 |issue= 5|pages=146–56 |year=1979}}</ref> Mae rhai'n arbenigo ar ei fwyta tra bod eraill hefyd yn bwyta bwydydd eraill. Mae rhai rhywogaethau'n ei fwyta fel atodiad i'w prif ddeiet ee llo [[eliffant]] yn bwyta ymgarthion ei fam a gelwir hyn yn "coproffagia". Drwy hyn, mae'r llo'n derbyn bacteria da sydd yn eu tro'n helpu i dreulio bwyd. Anifeiliaid eraill sy'n gwneud hyn yw [[ci|cŵn]], [[cwnhingencwningen|cwningod]] a [[mwnci|mwnciod]].
 
Gall [[aderyn ysglyfaethus|adar ysglyfaethus]] weld rhai ymgarthion neu biso anifail o bell, yn enwedig y rheiny sy'n adlewyrchu golau [[uwchfioled]], ac mae hyn yn eu harwain at eu [[ysglyfaeth|hysglyfaeth]].<ref>{{cite web|author= |url=http://www.ci.manhattan.ks.us/DocumentView.aspx?DID=6468 |title=Document: Krestel |publisher=City of Manhattan, Kansas |accessdate=11 Chwefror 2012}}</ref>