Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q855531 (translate me)
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Y Gymraeg: Cywiro typos
Llinell 9:
== Y Gymraeg ==
 
Bu cwymp yng nghanran poblogaeth y dinasyddion a nododd eu bont yn siarad Cymraeg, a chwympodd y nifer absoliwt hefyd. Y gwahaniaeth rhwng y ddau rif yma ydy'r cynnydd a welwyd yn y nifer o [[fewnlifiadmewnlifiad|bobl ddwad]] neu fewnlifiad o wledydd eraill i Gymru. Canfyddwyd:
 
* '''Bu cwymp (neu "leihad") o 9%''' yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.8% i 19.0%, sef '''1.8 pwynt canran'''). Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr. Mae'r ffigurau'n wahanol oherwydd twf ym mhoblogaeth Cymru. Bu cynnydd hefyd o ddau bwynt canran yn nifer y trigolion a anwyd y tu allan i'r wlad.
 
* '''Yn y De Orllewin''' y gwelwyd y '''cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr''': yn [[Sir GaefyrddinGaerfyrddin|Sir Gâr]], [[Ceredigion]], [[Castell-Nedd Port Talbot]] ac [[Abertawe]]. Roedd [[Cyfrifiad 2001]] wedi dangos canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn a oedd dros 65 oed, felly gellir dadlau fod rhan o'r cwymp presennol yn deillio o ostyngiad hanner canrif yn ôl yn nghanran y plant a fagwyd yn siarad Cymraeg.
 
* '''Yn y De Ddwyrain''', bu i gyfran y siaradwyr Cymraeg gwympo'n sylweddol ym [[Blaenau Gwent|Mlaenau Gwent]], [[Torfaen]] a [[Merthyr Tudful]]. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y siaradwyr Cymraeg yng [[Caerffili|Nghaerffili]] a [[Sir Fynwy]] rhyw fymryn. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn y siroedd hyn yn blant ysgol, ac roedd y niferoedd yn cynnwys llawer o blant nad oedd â rhiant a oedd yn medru Cymraeg ac nad oedd ychwaith yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Gan na fu newid chwyldroadol yn nulliau dysgu Cymraeg rhwng 2001 a 2011, mae yna le i gredu fod y cwymp yn deillio o '''newid yn y ffordd mae rhieni yn nodi sgiliau ail iaith eu plant''' yn y Gymraeg ar ffurflen y Cyfrifiad, yn hytrach na newid yn arfer iaith y boblogaeth.
 
* '''Yn y Gogledd Ddwyrain''' yn [[Sir DinbychDdinbych]], [[Sir y Fflint]] a [[Wrecsam]], bu gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg hefyd, ond i raddau llai. Bydd ystadegau wardiau yn dangos yn gliriach a yw'r ardal hon yn dilyn patrwm cyffredinol y De Orllewin neu'r De Ddwyrain.
 
* '''Yn y Gogledd Orllewin''' yng [[Gwynedd|Ngwynedd]], [[Môn]] a [[Conwy (sir)|Chonwy]], '''roedd nifer y siaradwyr yn weddol sefydlog''' ond mae cynnydd yn y boblogaeth oherwydd y mewnlifiad yn golygu bod canran y siaradwyr wedi gostwng.