Y Deml Heddwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
newid 'yn rannol' i 'yn rhannol'
Llinell 10:
[[Adeilad rhestredig]] Gradd II ym [[Parc Cathays|Mharc Cathays]], canolfan ddinesig [[Caerdydd]], yw'r '''Deml Heddwch ac Iechyd'''. Mae pwrpas yr adeilad yn adlewyrchiad o ddau ddiddordeb pennaf ei sylfaenydd, yr Arglwydd David Davies, sef "yr ymgyrch Gymreig yn erbyn y [[diciâu|darfodedigaeth]]... a'r groesgad dros heddwch cydwladol".<ref>{{dyf gwe|url=http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-DAVI-DAV-1880.html|cyfenw=Davies|enwcyntaf=Gwilym|teitl=Davies, David (1880–1944), y barwn Davies cyntaf|gwaith=Y Bywgraffiadur Ar-lein|cyhoeddwr=Llyfrgell Genedlaethol Cymru|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014}}</ref>
 
Ar ei hagor ym 1938, gan fam a oedd wedi colli ei phlant yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru|Rhyfel Byd Cyntaf]],<ref name="Hilling"/> roedd y Deml Heddwch yn bencadlys i ddau sefydliad a'u crëwyd yn rannolrhannol gan yr Arglwydd Davies: cangen Undeb [[Cynghrair y Cenhedloedd]] yn Nghymru a'r ''King [[Edward VII, brenin y Deyrnas Unedig|Edward VII]] Welsh National Memorial Association'' (sefydliad ar gyfer trin y diciâu). Er bod y rhain eisioes wedi darfod, mae'r adeilad bellach yn gartref i ddau sefydliad arall ag amcanion sy'n gysylltiedig â heddwch ac iechyd, sef [[Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru]]<ref>{{dyf gwe|url=http://www.wcia.org.uk/history_cy.html|teitl=Hanes y Deml|cyhoeddwr=Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014}}</ref> a [[Iechyd Cyhoeddus Cymru]], un o ymddiriedolaethau'r [[GIG Cymru|Gwasanaeth Iechyd Gwladol]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.templeofpeaceandhealth.com/Cymraeg%20Public%20Health%20Wales%20NHS%20Trust.html|teitl=Iechyd Cyhoeddus Cymru|gwaith=Y Deml Heddwch|dyddiadcyrchiad=14 Mehefin 2014}}</ref>
 
Y pensaer [[Percy Thomas]] a gynlluniodd y Deml Heddwch, mewn arddull glasurol a'i symleiddiwyd. Noda sawl awdur yr eironi fod yr arddull yn un debyg i bensaernïaeth [[Ffasgiaeth|Ffasgaidd]] yr Almaen a'r Eidal yn y 1930au.<ref name="BLB"/><ref name="Hilling">{{cite book |title=Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape |last=Hilling |first=John B. |year=1973 |publisher=Lund Humphries |location=Llundain |ref=harv |pages=159–60}}</ref>