Castell Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B clean up, replaced: Graddfa I → Gradd I using AWB
Llinell 3:
 
==Y castell canoloesol==
Mae'n debyg i gastell gael ei sefydlu ar y safle yn gynnar yn y [[13eg ganrif]] gan [[Ifor Bach]]. Cafodd y safle ei hawlio gan y teulu [[Normaniaid|Normanaidd]], [[De Clare]], yn hwyrach yn y ganrif honno oherwydd ei bwysigrwydd strategol. Edrychai dros wastadeddau'r ardal yn ogystal â'r ffordd i mewn i Ddyffryn Taf. Ailadeiladwyd y castell i gynnwys [[gorthwr]], tyrau, baurt gaëedig a phorthdy.
 
Ond erbyn oes y Tuduriaid, roedd y castell ar chwal.
 
==Y ffug gastell==
Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychydig iawn oedd ar ôl o'r bensaernïaeth Normanaidd. Gorchmynodd Trydydd [[Ardalydd Bute]], John Crichton-Stuart, i'r safle gael ei glirio o falurion a llysdyfiant ym 1871. Lluniodd ei bensaer [[William Burges]] gynlluniau ar gyfer ail-godi'r castell. Roedd Burges a'r Ardalydd eisioes wedi bod gweithio ar ailgodi [[Castell Caerdydd]] ers tair blynedd, a'r bwriad oedd codi Castell Coch yn yr un arddull o'r [[13eg ganrif]], sef arddull yr [[Adfywiad Gothig]].
 
Mae set o luniadau ar gyfer yr ail-godi yn dal i fodoli, ynghyd â chyfiawnhad pensaerniol llawn gan Burges. Mae'n amheus iawn y bu gan y castell hanesyddol y toeau conigol nodweddiadol sy'dd i'w gweld ar yr adeilad presennol. Roedd Burges eisiau'r toeau rhain ar gyfer eu effaith gweledol, gan gyfaddef eu bod yn "gwbl ddychmygol" ond yn "fwy darluniadaidd" ac yn "cynnig mwy o le".
 
Canlyniad y gwaith ailgodi oedd castell ffantasiol. Mae'r addurno y tu fewn yn debyg i'r hyn yr oedd Burges eisoes wedi cyflawni yng [[CastellNghastell Caerdydd]]. Gofalodd Burges i fanteisio cymaint â phosibl ar yr hyn oedd ar ôl o'r castell gwreiddiol a gynlluniwyd gan y teulu De Clare.
 
Yn dilyn marwolaeth Burges ym 1881, parhaodd y gwaith ar du fewn y castell am ddeng mlynedd arall. Ni fwriadwyd defnyddio'r castell fel cartref parhaol ar gyfer [[Ardalydd Bute|Ardalyddion Bute]]. Anaml y byddai'r teulu'n ymweld â'r castell ond mi wnaeth y [[John Crichton-Stuart, 3rd Marquess of Bute|Ardalyddes]] a'i merch, y Fonesig Margaret Crichton-Stuart, fyw yn y castell am gyfnod yn dilyn marwolaeth yr Ardalydd ym 1900.
Llinell 19:
Ym 1950 rhododd y pumed Ardalydd y castell yng ngofal y Weiniodogaeth Gweithiau. Gofalai [[Cadw]] am y castell heddiw. Mae'n atyniad twristaidd gweddol boblogaidd, a gellir ei logi ar gyfer cynnal priodasau a defnyddir mewn cyfresi teledu a ffilmiau ar adegau hefyd.
 
Ymddangosodd y castell gyntaf mewn ffilm [[Hollywood]] ym 1954, ''[[The Black Knight (ffilm 1954)|The Black Knight]]'', a serenodd [[Alan Ladd]]. Defnyddiodd y ffilm y chwedl y bu twnel cudd yn cysylltu Castell Coch a Chastell Caerdydd. Yn yr 1980au defnyddiwyd fel amddiffynfa Michael, Dug Strelsau mewn addasiad y [[BBC]] o ''[[The Prisoner of Zenda]]''.
 
Mae cynhyrchiadau teledu eraill yn cynnwys ''[[The Worst Witch]]'', [[The Story of Tracy Beaker (cyfres deledu)|Tracey Beaker's Movie Of Me]] a [[Robin Hood]].
Llinell 57:
[[Categori:Ffug gestyll Cymru|Coch]]
[[Categori:Cestyll Caerdydd|Coch]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig GraddfaGradd I Caerdydd]]
[[Categori:Pensaernïaeth Fictoraidd]]