Eglwys Gadeiriol Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B clean up, replaced: Graddfa I → Gradd I using AWB
Llinell 4:
Yn ôl traddodiad sefydlodd [[Deiniol Sant]] fynachlog ([[clas]]) ar lannau [[Afon Adda]] yn y [[6ed ganrif]]. Mae enw'r dref yn dod o'r gair '''bangor''', sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan [[Dyfrig Sant]] (''Dubricius'').
 
Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau hyd [[1071]] pan y'i llosgwyd gan [[y Normaniaid]]. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua [[1102]] ac eto yn ystod esgobaeth [[Dafydd y Sgotyn]], gyda rhodd sylweddol o arian gan [[Gruffudd ap Cynan]]. Claddwyd Gruffudd ap Cynan ger yr allor yma pan fu farw yn [[1137]]. Claddwyd ei fab [[Owain Gwynedd]] a brawd Owain, [[Cadwaladr ap Gruffudd]] yn y gadeirlan hefyd. Mae [[Gerallt Gymro]] yn disgrifio gwasanaeth yma yn [[1188]] pan weinyddwyd yr offeren gan Baldwin, [[Archesgob Caergaint]].
 
Dinistriwyd yr eglwys gan luoedd y brenin [[John o Loegr]] yn [[1210]] pan ymosododd ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] wedi iddo gweryla a [[Llywelyn Fawr]]. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y [[13eg ganrif]]. Bu cryn ddifrod i'r eglwys gaderiol pan ymosododd [[Edward I, brenin Lloegr]] ar Wynedd yn [[1282]], ac yn [[1284]] rhoddwyd y swm o £60 yn iawndal am y difrod.
 
Dywedir i'r eglwys gadeiriol gael ei llosgi yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]], ond nid oes tystiolaeth o'r cyfnod i gadarnhau hyn. Bu ail-adeiladu ar raddfa fawr o ddiwedd y [[15fed ganrif]], a orffennwyd yn [[1532]]. Mae arysgrif [[Lladin]] uwchben drws y twr yn cofnodi fod yr Esgob [[Thomas Skevington]] wedi ei adeiladu yn 1532, er nad oedd wedi ei orffen pan fu farw Skevington yn [[1533]]. Gwariwyd £2,000 ar drwsio'r adeilad yn [[1824]], a newidiwyd y tu mewn yn [[1825]] ar gost o £3252.
Llinell 12:
Mae'r adeilad fel y gwelir ef heddiw yn ffrwyth ail-adeiladu helaeth dan oruchwyliaeth Syr [[George Gilbert Scott|Gilbert Scott]] a ddechreuwyd yn [[1868]]. Yr oedd cynllun gwreiddiol Scott yn galw am dŵr uchel, ond ni allwyd ei orffen gan fod craciau yn dechrau ymddangos. Ofnid fod hyn yn arwydd o broblemau gyda'r sylfaen, a gadawyd y tŵr yn isel.
 
[[Categori:Adeiladau rhestredig GraddfaGradd I Gwynedd]]
[[Categori:Bangor]]
[[Categori:Eglwysi cadeiriol Cymru|Bangor]]