Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell Degannwy"

Lleihawyd o 7 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up, replaced: Graddfa II* → Gradd II* using AWB
B (clean up, replaced: Graddfa II* → Gradd II* using AWB)
[[Castell]] canoloesol yw '''Castell Degannwy''' a godwyd ar safle [[bryngaer]] gynharach wrth [[aber]] [[afon Conwy|Conwy]] yn y [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]], gogledd Cymru. Cyfeirir at y safle fel '''Caer Ddegannwy''' mewn ffynonellau Cymreig canoloesol. Mae'n safle o bwys hanesyddol mawr yn hanes [[teyrnas Gwynedd]] a'r rhyfeloedd dros annibyniaeth rhwng tywysogion [[Cymru]] a brenhinoedd [[Lloegr]], ond ychydig sy'n weladwy yno heddiw. Amddiffynnai groesfan strategol iawn ar [[afon Conwy]]. Saif ar ben bryn y tu ôl i dref [[Deganwy]], [[Conwy (sir)|Sir Conwy]].
 
== Hanes ac archaeoleg ==
Yn ôl traddodiad, bu gan y brenin cynnar [[Maelgwn Gwynedd]] amddiffynfa ar y safle neu'n agos iddi yn y [[6ed ganrif]]. Cyfeirir ato yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' ac mewn rhai o'r cerddi a briodolir i'r ffug-Daliesin ([[Taliesin Ben Beirdd]]). Yn ôl y chwedl carcharodd Maelgwn [[Elffin ap Gwyddno]], noddwr y Taliesin chwedlonol, yn y castell "dan dri ar ddeg clo", ond cafodd ei ryddhau diolch i ddawn Taliesin.
 
Cloddiwyd rhan o'r safle yn 1960-61 a darganfuwyd olion sy'n dyddio i [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru]] a dechrau'r [[Yr Oesoedd Tywyll yng Nghymru|Oesoedd Tywyll]]. Nid oes modd profi'r cysylltiad â Maelgwn Gwynedd yn ôl y dystiolaeth honno, ond ceir digon o gofnodion a thraddodiadau am y cysylltiad â Maelgwn.
 
Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Robert o Ruddlan]] godi castell [[mwnt a beili]] yno yn [[1088]] pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, roedd yr Iarll Robert yn cysgu ganol dydd yn y castell pan ddeffrowyd ef gyda'r newyddion fod Cymry wedi glanio mewn tair llong islaw [[Pen y Gogarth]], i'r gogledd, a'u bod yn ysbeilio ei diroedd. Dywed rhai ffynonellau mai [[Gruffudd ap Cynan]] oedd yn eu harwain, wedi iddo ddianc o garchar Robert yng [[Caer|Nghaer]]. Gyrrodd Robert negeseuwyr i ymgynnull ei filwyr, ac aeth ef ei hun i odre Ben y Gogarth, lle gwelodd fod y llanw'n codi a'r Cymry ar fin hwylio ymaith gyda'i hysbail. Rhuthrodd Robert i lawr y llechwedd mewn cynddaredd, a dim ond ei gludydd arfau yn ei ddilyn. Lladdwyd ef a gwaywffyn, a hwyliodd y Cymry ymaith gyda'i ben ynghlwm wrth fast un o'r llongau.
[[Categori:Conwy (tref)]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith 1088]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig GraddfaGradd II* Conwy]]
7,597

golygiad