Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyswllt wici
ychwanegu lluniau
Llinell 1:
[[Delwedd:Yr_Hen_Goleg,_Prifysgol_Aberystwyth.jpg|de|bawd|250px|Yr Hen Goleg yn 2010]]
Mae adeilad yr '''Hen Goleg''' ar rodfa’r môr yn [[Aberystwyth]] yn [[adeilad rhestredig]] Gradd I ac yn eiddo i [[Prifysgol Aberystwyth|Brifysgol Aberystwyth]]. Mae’n enghraifft o adeilad yn y steil gothig o’r 19fed ganrif. Yr adeilad hwn oedd yr adeilad cyntaf i'w brynu yn yr ymgyrch i sefydlu [[Prifysgol Cymru]]. Erbyn 2014 mae’r rhan fwyaf o weithgareddau’r coleg wedi cael eu symud o’r adeilad hwn, ac mae cynlluniau ar y gweill i addasu’r adeilad at ddefnydd newydd. <ref>{{dyf gwe |url=https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2013/07/title-137108-cy.html |teitl=Bywyd Newydd i'r Hen Goleg |cyhoeddwr=Prifysgol Aberystwyth |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref>
 
Llinell 4 ⟶ 5:
Yr adeilad cyntaf i’w adeiladu ar y safle hwn oedd Castle House. Cynlluniwyd yr adeilad gan John Nash ar gais Syr Uvedale Pryce, a fynnai adeiladu tŷ pictiwrésg i’w wraig. Adeiladwyd y tŷ tua 1795 <ref>{{dyf gwe |url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-10251-university-college-of-wales-old-college-b |teitl=University College of Wales Old College Building, Aberystwyth |cyhoeddwr=www.britishlistedbuildings.co.uk |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref> ar ffurf triongl gyda thyrrau wythonglog ar bob pen iddo. Gwerthwyd yr adeilad sawl gwaith hyd y 1860au a’i ehangu yn y steil gwreiddiol. Erbyn hynny roedd dyfodiad y rheilffordd wedi denu nifer o wŷr busnes i ddechrau datblygu Aberystwyth yn le gwyliau. Yn eu plith yr oedd Thomas Sevin, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r rheilffordd o Fachynlleth i Aberystwyth. Prynodd Castle House a mynd ati i’w ehangu a’i droi’n westy modern, moethus, gan gyflogi [[John Pollard Seddon|JP Seddon]] yn 1864 i gynllunio’r gwaith. Yr oedd yn ras wyllt arno i gwblhau’r gwaith adeiladu er mwyn gallu agor y gwesty. Oherwydd hyn, roedd y llu o weithwyr a gyflogwyd yn bwrw iddi’n gyflymach nag y gallai JP Seddon ddarparu cynlluniau manwl iddynt. Cyflogwyd dylunwyr i wneud cynlluniau wedi eu seilio ar fodel pren o waith JP Seddon. Mae ôl y brysio hwn i’w weld ar y cerrig, rhai cerfiedig a rhai heb eu cerfio, sydd i’w gweld ochr yn ochr ar fwa maen tu fewn i’r adeilad. Erbyn mis Mehefin 1865 roedd digon o waith wedi ei wneud i allu agor y Castle Hotel i ymwelwyr, wedi ei oleuo trwy ynni nwy. Ond roedd sefyllfa ariannol JP Seddon yn rhy fregus iddo gwblhau’r gwaith datbygu. Ar ôl gwario £80,000 ar y Castle Hotel, bu’n rhaid iddo rhoi’r gorau iddi a cheisio ei werthu.
 
[[Delwedd:The_college,_Aberystwyth.jpg|chwith|bawd|200px|Yr Hen Goleg yn 1885 gydag un o dyrrau wythonglog Castle House i'w weld uwchben ochr pella'r adeilad]]
Yr oedd prinder darpariaeth addysg bellach yng Nhymru yr adeg honno. Yr oedd [[Hugh Owen]] yn arwain yr ymdrech i sefydlu prifysgol i Gymru. Gyda chefnogaeth brwd y capeli anghydffurfiol, fe gasglwyd arian o bocedi gwerin Cymru, gan ddechrau gyda chwarelwyr gogledd Cymru. Erbyn canol 1865 roedd £5,000 wedi ei gasglu. Bachodd pwyllgor Hugh Owen y cyfle i brynu adeilad y Castle Hotel, gan dalu £10,000 amdano ym mis Mawrth 1867. Rhaid oedd casglu rhagor o arian eto cyn gallu agor y ‘Coleg Ger y Lli’ ar y safle hwn yn 1872. O hynny ymlaen byddai hanes yr adeilad yn ran anatod o hanes coleg Aberystwyth. Gwelodd yr adeilad sawl achlysur mawreddog, gan gynnwys dathlu sefydlu Prifysgol Cymru drwy siarter frenhinol yn 1896 ym mhresenoldeb Tywysog Cymru a llu o fawrion.
 
[[Delwedd:Main_Hall,_Old_College,_Aberystwyth_University.jpg|de|bawd|200px|Y Cwad]]
Ym mis Mehefin 1885 niweidiwyd yr adeilad gan dân a laddodd tri o’r rhai a fu’n ymladd y tân. Ond ail-adeiladwyd ac wrth bod y coleg yn ehangu ac yn datblygu, cafwyd newidiadau i’r adeilad. Codwyd arian yn 1890 i ddodrefnu Llyfrgell y Coleg. Yn 1893 gosodwyd to ar ben y clos yng nghanol yr adeilad, gan ffurfio cwadrangl. Dymchwelwyd y darn gwreiddiol o’r adeilad o ddyddiau Castle House ym 1897. <ref>{{dyf gwe |url=http://www.coflein.gov.uk/pdf/RCEX_010_09/ |teitl=Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru |cyhoeddwr=www.coflein.gov.uk |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref> Adeiladwyd bloc yn steil y Frenhines Anne yn ei le, yn ôl cynlluniau CJ Ferguson, <ref>{{dyf gwe |url=http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/23303/manylion/CASTLE+HOUSE+HOTEL%3BOLD+COLLEGE%2C+UNIVERSITY+COLLEGE+OF+WALES%2C+ABERYSTWYTH/ |teitl=Castle House Hotel; Old College, University of Wales, Aberystwyth |cyhoeddwr=Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref> i’w ddefnyddio’n bennaf gan adrannau’r gwyddorau gwyddonol.
 
Buan iawn y tyfodd nifer y myfyrwyr a’r pynciau y cynigiwyd iddynt yn fwy nag y gellid eu dysgu yn yr adeilad hon. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y coleg wedi dechrau prynu tir ac adeiladau eraill er mwyn ehangu. Yn y 1960au a’r 1970au adeiladwyd campws newydd ar riw Penglais, gan drosglwyddo mwy a mwy o’r gwaith dysgu o’r ‘Hen Goleg’, gan adael y gwaith gweinyddol yno. <ref>W.J. Lewis, ''Born on a Perilous Rock'', tt171-180, The Cambrian News (Aberystwyth) Ltd (1980)</ref> Erbyn 2014 mae’r gwaith gweinyddol hefyd wedi cael ei symud i adeiladau eraill, gan adael yr Hen Goleg i ddisgwyl cael hyd i ddefnydd newydd unwaith eto.
Llinell 23 ⟶ 26:
 
==Dolenni allanol==
{{commonscat|Old College, Aberystwyth University|Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth}}
* [http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/23303/manylion/CASTLE+HOUSE+HOTEL%3BOLD+COLLEGE%2C+UNIVERSITY+COLLEGE+OF+WALES%2C+ABERYSTWYTH/ Coflein]
* [http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-10251-university-college-of-wales-old-college-b British Listed Buildings]