Eisteddfod Aberteifi 1176: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
cyswllt wici
Llinell 1:
'''Eisteddfod Aberteifi''', a gynhaliwyd dros y [[Nadolig]] yn [[1176]], yw'r eisteddfod gyntaf sy'n hysbys.
 
Fe'i cynhaliwyd gan [[Yr Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] yn ei lys yn [[Castell Aberteifi|Aberteifi]]. Cyn ei chynnal roedd y tywysog wedi anfon cenhadon i bob cwr o'r wlad i gyhoeddi'r ŵyl. Dyma'r cofnod amdano sydd ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] (diweddarwyd yr orgraff):
 
:Y Nadolig yny flwyddyn honno y cynhelis yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd llys yn ardderchog yn Aberteifi, yn y castell, ac y gosodes deuryw ymryson yno, un y rhwng beirdd a phrydyddion, un arall y rhwng telynorion a chrythorion a phibyddion ac amrafaelion genhedloedd gerdd miwsig, ac ef a beris gosod dwy gadair i'r gorchfygwyr ac ef a anrhydedodd y rhei hynny o roddion ehelaeth.