Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
am y sillafiad "Uvedale Price", gweler Coflein (dolen yn yr erthygl) a'r erthygl Wicipedia Saesneg amdano. 5 canlyniad Google yn unig sydd gan "Uvedale Pryce" ond mae 428 am "Uvedale Price"
Llinell 47:
Mae adeilad yr '''Hen Goleg''' ar rodfa’r môr yn [[Aberystwyth]] yn [[adeilad rhestredig]] Gradd I<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/23303/details/CASTLE+HOUSE+HOTEL%3BOLD+COLLEGE%2C+UNIVERSITY+COLLEGE+OF+WALES%2C+ABERYSTWYTH/ Gwefan Coflein;] adalwyd 23 Mehefin 2014; Rhif Cadw: NPRN 96582.</ref> ac yn eiddo i [[Prifysgol Aberystwyth|Brifysgol Aberystwyth]]. Mae’n enghraifft o adeilad yn yr arddull [[Adfywiad Gothig|neo-gothig]] o’r 19fed ganrif. Yr adeilad hwn oedd yr adeilad cyntaf i'w brynu yn yr ymgyrch i sefydlu [[Prifysgol Cymru]]. Erbyn 2014 mae’r rhan fwyaf o weithgareddau’r coleg wedi cael eu symud o’r adeilad hwn, ac mae cynlluniau ar y gweill i addasu’r adeilad at ddefnydd newydd.<ref>{{dyf gwe |url=https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2013/07/title-137108-cy.html |teitl=Bywyd Newydd i'r Hen Goleg |cyhoeddwr=Prifysgol Aberystwyth |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref>
 
==Hanes yr adeiladu==
Yr adeilad cyntaf i’w adeiladu ar y safle hwn oedd Castle House. Cynlluniwyd yr adeilad gan [[John Nash]] ar gais Syr Uvedale Price, a fynnai adeiladu tŷ pictiwrésg i’w wraig. Adeiladwyd y tŷ tua 1795<ref>{{dyf gwe |url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-10251-university-college-of-wales-old-college-b |teitl=University College of Wales Old College Building, Aberystwyth |cyhoeddwr=www.britishlistedbuildings.co.uk |dyddiadcyrchiad=22 Mehefin 2014 }}</ref> ar ffurf triongl gyda thyrrau wythonglog ar bob pen iddo. Gwerthwyd yr adeilad sawl gwaith hyd y 1860au a’i ehangu yn y steil gwreiddiol. Erbyn hynny roedd dyfodiad y rheilffordd wedi denu nifer o wŷr busnes i ddechrau datblygu Aberystwyth yn le gwyliau. Yn eu plith yr oedd Thomas Sevin, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r rheilffordd o [[Machynlleth|Fachynlleth]] i Aberystwyth. Prynodd Castle House a mynd ati i’w ehangu a’i droi’n westy modern, moethus, gan gyflogi [[John Pollard Seddon|J. P. Seddon]] yn 1864 i gynllunio’r gwaith. Yr oedd yn ras wyllt arno i gwblhau’r gwaith adeiladu er mwyn gallu agor y gwesty. Oherwydd hyn, roedd y llu o weithwyr a gyflogwyd yn bwrw iddi’n gyflymach nag y gallai J. P. Seddon ddarparu cynlluniau manwl iddynt. Cyflogwyd dylunwyr i wneud cynlluniau wedi eu seilio ar fodel pren o waith J. P. Seddon. Mae ôl y brysio hwn i’w weld ar y cerrig, rhai cerfiedig a rhai heb eu cerfio, sydd i’w gweld ochr yn ochr ar fwa maen tu fewn i’r adeilad. Erbyn mis Mehefin 1865 roedd digon o waith wedi ei wneud i allu agor y Castle Hotel i ymwelwyr, wedi ei oleuo trwy ynni nwy. Ond roedd sefyllfa ariannol J. P. Seddon yn rhy fregus iddo gwblhau’r gwaith datbygu. Ar ôl gwario £80,000 ar y Castle Hotel, bu’n rhaid iddo rhoi’r gorau iddi a cheisio ei werthu.