Manga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Gwreiddiau Manga: Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB |
cywiro |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:InuYashaVolume1.jpg|250px|bawd|Ail argraffiad Saesneg o'r llyfr '''Manga''' [[InuYasha]] (Cyf. 1)]]
'''Manga''' ([[Siapaneg]] 漫画) yw'r gair [[Japan|Siapaneg]] am gomics a digrifluniau. Y tu allan i
Datblygodd Manga o gyfuniad o arddulliau ''[[ukiyo-e]]'' ac arddulliau darlunio tramor, a chymerodd ei ffurf bresennol yn fuan wedi diwedd [[yr Ail Ryfel Byd]]. Fel rheol mae'r lluniau i gyd mewn du a gwyn, ac eithrio'r clawr a'r tudalennau cyntaf; yr unig eithriad yw'r ffurf ''hybrid'' '''Animanga''', sy'n cyfuno elfennau o Fanga ac [[Anime]] ac yn lliwgar iawn.
Llinell 18:
Fodd bynnag, mae'r traddodiad i'w olrhain ymhellach yn ôl i'r [[12fed ganrif]] pan dynnai sawl artist luniau ''giga'' (yn llythrennol "lluniau digrif"), ac yn neilltuol ''chōjū jinbutsu giga'' (鳥獣人物戯画, sef "lluniau digrif o bobl ac anifeiliaid"); lluniau sy'n cynnwys sawl nodwedd o'r ''manga'' gan bwysleisio'r elfennau storïol uniongyrchol a llinellau artistaidd syml ond cryf.
Yn y [[19eg ganrif]], pan ddechreuodd yr [[UDA|Americanwyr]] fasnachu â Siapan, daeth artistiaid tramor i weithio yn y wlad a dysgu elfennau fel llinell, ffurf a lliw yn y traddodiad Gorllewinol; roedd hyn yn ddatblygiad newydd am fod ''ukiyo-e'' yn rhoi mwy o bwyslais ar y syniad tu ôl i'r llun mewn arddull llawer mwy rhydd. Gelwid Manga hybrid y cyfnod hwnnw yn ''Ponchi-e'' ("lluniau Punch") a, fel y cylchgrawn Seisnig o'r un enw, ''[[Punch (cylchgrawn)|Punch]]'', roedd yn canolbwyntio ar ddarlunio hiwmor a [[dychan]] gwleidyddol mewn cyfresi byrion o
== Manga heddiw ==
[[Delwedd:MangaStoreJapan.jpg|250px|bawd|Siop '''Manga''' yn Siapan]]
Yn aml mae comics Manga poblogaidd yn cael eu haddasu ar gyfer ffilmiau ''anime'' (yn y Gorllewin gelwir Manga yn "anime" weithiau ond mae ''anime'' yn ffurf arbennig, diweddar, ar wahân). Weithiau mae ''anime'' llwyddianus yn cael ei droi'n
Er bod nifer fawr o gomics a llyfrau Manga yn cael eu creu ar gyfer plant a phobl yn eu harddegau, camgymeriad fyddai meddwl mai comics cyffredin
== Cysylltiadau allanol ==
|