William Brace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
manion, categoriau
Llinell 1:
[[Delwedd:373px-1906 William Brace.jpg|200px|bawd|William Brace ym 1906]]
Gwleidydd ac arweinydd undeb Cymreig oedd '''William Brace''' ([[23 Medi]] [[1865]] – [[12 Hydref]] [[1947]]) a oedd yn Llywydd [[Ffederasiwn Glowyr De Cymru]] rhwng 1912 ac 1915. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol Lib-Lab [[San Steffan]] dros etholaeth De Morgannwg ac [[Abertyleri]] ac roedd yn lladmerydd brwd dros un undeb ar gyfer holl lowyr gwledydd Prydain a chafwyd sawl dadl gyhoeddus ynghylch hyn rhyngddo a Mabon ([[William Abraham]]). Rhwng 1915 ac 1919 roedd yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref.<ref>Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Argraffwyd 2008; tudalen B89.</ref>
 
Cafodd ei eni yn [[Rhisga]] yn yr ardal lofaol o [[Sir Fynwy]] yn un o chwech o blant.<ref name=odnb>{{ODNBweb|id=47328|title=Brace, William (1865–1947), undebwr}}</ref> Wedi cyfnod yn yr ysgol gynradd aeth i weithio i bwll glo lleol yn ddim ond 12 oed ac yna ym mhyllau [[Celynnen]] ac [[Abercarn]]. Yn 1898 cafodd ei benodi'n is-lywydd cyntaf [[Ffederasiwn Glowyr De Cymru]] a daeth yn Llywydd rhwng 1912 ac 1925. Ym 1890 cafodd ei benodi yn asiant i Undeb Llafur De Cymru ac ychydig yn ddiweddarach yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.<ref name="obit">{{cite news|title=''Obituary: Mr. William Brace. Service In South Wales Coalfield''|date=14 Hydref 1947|work=[[The Times]]|page=6}}</ref><ref name=odnb>{{ODNBweb|id=47328|title=Brace, William (1865–1947), undebwr llafur}}</ref>
 
Priododd Nellie Humphreys yn 1890 a chawsant ddau o blant ac un ferch. Daeth y mab ieuengaf, Ivor Llewellyn Brace, yn Brif Farnwr Prif Lys [[Sarawak]], [[Borneo|Gogledd Borneo]] a [[Brunei]].<ref name="odnb" />
 
Bu farw ar ôl gwaeledd hir yn ei gartref yng [[AlltGallt-yr-ynynn|Ngallt-yr-ynn]], [[Casnewydd]] yn Hydref 1947 yn 82 oed.<ref name=obit/><ref name="odnb" />
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 14:
[[Categori:Arweinwyr undeb]]
[[Categori:Genedigaethau 1865]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1947]]
[[Categori:Pobl o Gaerffili]]