Prysgwydd cordeddog yn nheulu'r ''Caprifoliaceae'' yw'r '''gwyddfid''' (enw unigol ac enw lluosog) a sydd yn gynhenid i hemisffêr y gogledd. Ceir y diffiniad canylynol ohono yng [[Geiriadur Prifysgol Cymru|Ngeiriadur Prifysgol Cymru]]: ''Planhigyn dringol ac ymnyddol o deulu’r Caprifoliaceæ sy’n tyfu mewn llwyni a gwrychoedd ac iddo flodau melynbinc persawrus ar ffurf utgyrn sy’n dwyn aeron cochion''. Mae 180 o rywogaethau gwyddfid a 20 ohonynt yn gynhenid i [[Ewrop]]. Adwaenir hydef fel '''''llaeth y gaseg''''', ymysg nifer o enwau gwahanol.