Castell Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Conwy Castle - bridge view.jpg|bawd|320px|Delwedd o'r Castell gan Cadw.]]
[[Castell]] yn nhref [[Conwy (tref)|Conwy]] ar lan [[afon Conwy]] yw '''Castell Conwy'''. Cynllunwyd y castell gan [[James o St George]] ac fe'i adeiladwyd gan frenin Lloegr, [[Edward I o Loegr|Edward I]], er fod [[Rhisiart o Gaer]] yn gyfrifol yn y ddechraudechrau ([[1283]]). Adeiladwyd y castell ar ben adfeilion abaty, ac mae mur o gwmpas y dref cyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref. Roedd '''Castell Conwy,''' yn wahanol i nifer o gastelli eraill '''James o St George,''' heb fod yn gonsentrig ond yn cael ei godi yn ôl cynllun llinellol oherwydd ffurf y safle creigiog. Mae'r wyth tŵr anferth gyda'u tyredau a'r muriau cysylltu i gyd yn gyfan. <ref> Over Wales Pitkin Unichrome 2000</ref> Mae'r castell yng ngofal [[Cadw]], ac, fel un o gestyll Edward I yng ngogledd Cymru, mae ar restr [[Safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]] ers [[1986]].
 
Ym [[1401]], yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]], cipiodd ei gefnogwyr [[Rhys ap Tudur]] a'i frawd [[Gwilym ap Tudur]] y castell, a llosgwyd y dref.