Am y tro cyntaf ers i'r twrnament ymestyn i 32 tîm llwyddodd pob un o ennillwyr y grwpiau i gyrraedd rownd yr wyth olaf, sef pedwar o dimau [[UEFA]], tri o [[CONMEBOL]] ac un o {{[[CONCACAF]]. Roedd angen [[amser ychwanegol]] ym mhump o'r gemau ac roedd angen [[ciciau o'r smotyn]] yn nwy o'r rhain. Llwyddodd Colombia a Costa Rica i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes, gyda Gwlad Belg yn cyrraedd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 1986. Roedd pedwar cyn bencampwr - Brasil, Ffrainc, Yr Almaen a'r Ariannin - ymysg yr wyth olaf, ynghyd â'r Iseldiroedd, sydd wedi colli yn y rownd derfynol ar dair achlysur.