Titus Livius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 57 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2039 (translate me)
Lifi
Llinell 1:
[[Image:Titus Livius.png|thumb|Titus Livius, llun dychmygol.]]
 
Hanesydd [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] oedd '''Titus Livius''' neu yn Gymraeg '''Lifi'''<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Livy].</ref>
(tua [[59 CC]] - [[17]] OC). Mae'n enwog am ei waith ar hanes Rhufain, ''[[Ab Urbe Condita (llyfr)|Ab Urbe Condita]]'', sy'n trafod hanes y ddinas o'i dechreuad, yn [[753 CC]] yn ôl traddodiad, hyd at gyfnod Livius ei hun yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr [[Augustus]].
 
Ganed Livius yn Patavium yn nhalaith [[Gallia Cisalpina]] ([[Padua]] yn [[yr Eidal]] heddiw). Gwyddir iddo briodi a bod ganddo o leiaf ddau blentyn. Enillodd ffafr Augustus a bu'n diwtor i [[Claudius]], a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach. Bu farw yn Patavium.
 
Roedd ''Ab Urbe Condita'' yn cynnwys 142 llyfr, ond dim ond 35 o'r rhain sydd wedi goroesi, sef 1-10 a 21-45 (gyda rhannau ar goll o 40-45). Cafwyd hyd i rannau o rai o'r llyfrau eraill neu grynodebau ohonynt. Roedd y gwaith yn boblogaidd iawn o'r cychwyn, ac mae'r rhannau sydd wedi goroesi yn parhau'n boblogaidd, yn enwedig 1-10, sy'n trafod dyddiau cynnar Rhufain, a 21-30, sy'n rhoi hanes y rhyfel yn erbyn [[Hannibal]].
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Genedigaethau 59 CC|Livius]]