Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pelagius"

Ychwanegwyd 163 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Pelagiws, Peleg
B (Bot: Migrating 29 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q162593 (translate me))
(Pelagiws, Peleg)
{{Other uses}}
[[Delwedd:Pelagius.jpg|250px|bawd|Pelagius (llun dychmygol)]]
[[Diwinyddiaeth|Diwinydd]] [[Brythoniaid|Brythonig]] oedd '''Pelagius''' neu yn Gymraeg '''Pelagiws'''<ref name=GyA>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Pelagius].</ref> neu '''Peleg'''<ref name=GyA/> (tua [[350]] - tua [[418]]), a wrthwynebai athrawiaeth [[Awstin o Hippo]] am ras anorchfygol. Condemniwyd ef a'i ddysgeidiaeth, a elwir weithiau yn 'Belagiaeth', am fod yn [[heresi|heresïol]] yn nes ymlaen ond am gyfnod bu'n eithaf dylanwadol. Yn y traddodiad Cymreig cyfeirir ato weithiau fel '''Morgan''' (sy'n deillio o '[[môr]]anedig' efallai, cyfystyr â'r enw [[Lladin]] ''Pelagius'').
 
Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o [[Ynys Prydain|Brydain]], o dras Frythonig, a deithiodd i ddinas [[Rhufain]] ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdr gyda chylch o ddisgyblion o dras fonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyraeth [[Duw]] ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth [[pechod gwreiddiol]].
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae [[Gildas]] yn cyhuddo'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] o fod yn Belagiad. Yn ôl ''Buchedd Dewi'', llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd [[Dewi Sant]], cynhaliwyd [[synod]] [[Llanddewi Brefi]] yn y 6ed ganrif, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny.
 
==Llyfryddiaeth Gweler hefyd ==
* Brinley R. Rees, ''Pelagius: A Reluctant Heretic'' (Woodbridge, 1988)
 
==Gweler hefyd==
* [[Y Brython Sisilaidd]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* Brinley R. Rees, ''Pelagius: A Reluctant Heretic'' (Woodbridge, 1988)
 
[[Categori:Genedigaethau'r 350au]]
64,931

golygiad