If You Tolerate This Your Children Will Be Next: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Ysbrydolwyd y gân gan [[Rhyfel Cartref Sbaen|Ryfel Cartref Sbaen]] a delfrydiaeth y Cymry a wirfoddolodd i ymladd ar ochr y [[Brigadau Rhyngwladol]] adain chwith a oedd yn ymladd dros [[Ail Weriniaeth Sbaen]] yn erbyn lluoedd ffasgaidd [[Francisco Franco]]. Daw enw'r gân o boster Gweriniaethol o'r cyfnod a fu'n dangos llun o blentyn a laddwyd gan y lluoedd ffasgaidd gydag wybr yn llawn o awerynnau bomio yn y cefndir a'r rhybudd llwm "os ydych yn goddef hyn, eich plant fydd nesaf" wedi ei ysgrifennu oddi tano. <ref>Gellir gweld fersiwn gwreiddiol o'r poster hwn yn yr Imperial War Museum, Llundain—Item IWM PST 8661.</ref>
 
Ar ben hynny, bu ambell waith ar Ryfel Cartref Sbaen yn ddylanwadu ar gyfansoddu'r gân, a cheir sawl cyfeiriad at y gweithiau hynny. Er enghraifft, priodolir y llinell "If I can shoot rabbits / then I can shoot fascists" i gyfweliad gan ddyn, flynyddoedd wedi'r ryfel, a wirfoddolodd ar ochr y Gweriniaethwyr. Cafwyd y dyfyniad hwn yn llyfr [[Hywel Francis]], ''Miners Against Fascism''. Gwaith arall yw ''[[Homage to Catalonia]]'' gan [[George Orwell]], sef ei gyfrif personol, llaw gyntaf o'r rhyfel. Mae'r llinell "I've walked Las Ramblas/but not with real intent" yn dwyn i gof hanes Orwell o frwydro ar y Ramblas, a'r amryw garfanau yn methu ag ennill tir, ond, er hynny, gydag ymdeimlad o frawdgarwch cryf a oedd yn drech na realiti anobeithiol y sefyllfa.
 
{{listen |filename=If you tolerate this your children will be next.ogg |title="If You Tolerate This Your Children Will Be Next" sampl|description=|format=[[Ogg]]}}