Sgwrs:Plaid Gomiwnyddol Prydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by 79.75.193.37 in topic Newid i enw anghywir
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Newid i enw anghywir== Roedd symud hyn yn gamgymeriad. Mae'r enw yn ddigon amlwg: Plaid Gomiwnyddol ''Prydain'' (The Communist Party of ''Britain'', CPB...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:20, 11 Gorffennaf 2014

Newid i enw anghywir

Roedd symud hyn yn gamgymeriad. Mae'r enw yn ddigon amlwg: Plaid Gomiwnyddol Prydain (The Communist Party of Britain, CPB) nid "Plaid Gomiwnyddol Gwledydd Prydain". Mae'r enw hwnnw yn anghywir ac yn gamarweiniol hefyd (gan amlaf defnyddir y term Cymraeg "Gwledydd Prydain" i gyfeirio at y DU, yn gam neu'n gymwys, ond fel yn achos yr hen Blaid Gomiwnyddol, sef Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, dydy'r blaid newydd hon ddim yn weithgar yn Chwe Sir gogledd Iwerddon). Mae angen erthygl am yr hen blaid (Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr - Communist Party of Great Britain CPGB) hefyd rywbryd gan mai rhyw rhelyw gwan o'r blaid honno yw'r blaid newydd. Cyfieithiad llythrennol, oni bai fod y blaid newydd ei hun un defnyddio'r term "Gwledydd Prydain", sy'n bur anhebygol, yw'r dewis cywir. Fel arall dwi o blaid y term "Gwledydd Prydain" (i gyfeirio at Gymru, Yr Alban a Lloegr) ond yma mae'n creu dryswch diangen. 79.75.193.37 22:20, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Plaid Gomiwnyddol Prydain".