Merthyr Tudful: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 25:
==Hanes==
[[Delwedd:Merthyr Tydfil arms.png|200px|bawd|Arfbais Cyngor Merthyr, gyda'r Santes [[Tudful]]]]
Adeiladodd y [[Rhufeiniaid]] [[Caerau Rhufeinig Cymru|gaer]] yn yr ardal, ym [[Penydarren|Mhenydarren]] a chododd y [[Normaniaid]] gastell ym [[Castell Morlais|Morlais]]. Yn ôl traddodiad, cysylltir Merthyr â sant [[Tudful]]:yn ôl traddodiad, enwyd y dref ar ôl [[Santes Tudful]], merch y brenin [[Brychan Brycheiniog]]. Dywedir iddi gael ei lladd gan baganiaid yn 480; enwyd y lle y'i lladwyd yn Merthyr Tydfil i'w hanrhydeddu<ref> Farmer, David Hugh. (1978). "Tydfil". In The Oxford Dictionary of Saints.</ref>. Daw'r enw o'r gair '[[merthyr]]' yn ei ail ystyr, sef "eglwys er cof i sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd".<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. III, tudalen 2436.</ref>
 
Yn [[1690]] gwnaeth yr [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] adeiladu [[capel]] yng Nghwm-y-glo, a chododd yr [[Undodiaeth|Undodiaid]] un yng [[Nghefn Coed|Cefn Coed y Cymer]] yn [[1747]]. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymuno â'r anghydffurfwyr a wnaeth y rhan fwyaf ohonynt. Y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog oedd yn perthyn i [[Eglwys Loegr]].